Ymunwch â Davy Greenough, arweinydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys, ar deithiau cerdded meddylgarwch o amgylch rhai o leoliadau harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymgollwch yn yr amgylchedd naturiol wrth i chi ddilyn teithiau cerdded cymedrol yn Eryri gyda ysbeidiau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr ar hyd y daith.

Arweinydd y sesiwn
Davy Greenough

Manylion y daith
Dyddiad: Dydd Sadwrn, Ebrill 26
Lleoliad: Llyn y Parc, Betws y Coed
Lleoedd: 10
Pellter y daith: 3.5 milltir
Graddfa'r daith: Cymedrol
Cyfarfod am 9:00yb a gorffen cerdded am oddeutu 12:30yh

Parcio: Cae Llan P & D

Gweld ar what3words
Gweld ar Google Maps

Dysgu rhagor am raddfeydd cerdded

Trefnwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Bydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Lles yn anfon y manylion ynglŷn â'r daith atoch yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cynhelir y sesiynau trwy gyfrwng Saesneg, gyda swyddog sy’n siarad Cymraeg o’r Awdurdod Parc yn bresennol.

Canslo ac ymholiadau

Os oes angen i chi ganslo eich archeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â:

Etta Trumper
Swyddog Llesiant a Gwirfoddoli
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
E-bost: etta.trumper@eryri.llyw.cymru

Archebu lle
Sesiwn
Ebrill 26, 2025 (09:00 - 12:30)
Nifer o fynychwyr

Taith Gerdded Meddylgarwch: Llyn Y Parc, Betws y Coed

From: £5.00

Ymgollwch yn natur Eryri ar deithiau cerdded meddylgarwch.

Category: