Cwrs ymarferol gyda digonedd o gyfleoedd i bawb gymryd rhan.
Bydd y cwrs yn ymwneud a theori sylfaenol ar ddechrau'r diwrnod ac yna bydd yn symud ymlaen i ymdrin â'r canlynol:
- Y gwahanol fathau o galchoedd
- Dewis tywodau ac agredau
- Gwahanol ffyrdd o gymysgu morterau a phlastrau sy'n addas i'ch prosiect
- Pwyntio
- Plastro
- Gwyngalchu
- Limecrete
Dewch a'ch cinio a'ch byrbrydau efo chi yn ogystal â dillad gwaith nad oes ots gennych eu baeddu.
Byddwn yn darparu'r celfi, yr offer diogelwch personol a'r holl ddeunyddiau fydd eu hangen arnoch.
Byddwn yn darparu'r celfi, yr offer diogelwch personol a'r holl ddeunyddiau fydd eu hangen arnoch.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.