Trees and pastures
2529102119
Strategaeth 100 mlynedd ar gyfer Eryri
Bydd y Strategaeth Coed a Choetiroedd (SCCh) hon yn rhoi canllawiau i dirfeddianwyr, rheolwyr tir, rhanddeiliaid a phobl leol ar reoli coed a choedwigoedd yn y dirwedd, a sefydlu coed a choetiroedd newydd. Bydd datblygiad a gweithrediad y strategaeth yn cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE), ond bydd y ddarpariaeth yn seiliedig ar gyfranogiad a chydweithrediad helaeth gyda llawer o bartneriaid a phobl yn y Parc Cenedlaethol.

“Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Strategaeth Coed a Choetiroedd ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri.Mae’r strategaeth yn ganlyniad i gyd-gynllunio gyda phobl leol, rheolwyr tir, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cynllun 100 mlynedd. Ynddo rydym yn cydnabod pwysigrwydd coed a choetiroedd yn yr ardal arbennig hon, yn enwedig ein coedwigoedd glaw, ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn ac yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. O ganlyniadau i’n sgyrsiau, mae’n amlwg bod angen diogelu, gwella ac ehangu ein coed a’n coetiroedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” 

Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd APCE

Ein gweledigaeth

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein gweledigaeth ar gyfer tirweddau coediog Eryri mewn 100 mlynedd – gallwch ddarllen y strategaeth llawn trwy’r ddolen isod:

Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri