Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Parc Cenedlaethol Eryri o bell ffordd. Mae dros 600,000 o bobl yn cerdded i’r copa bob blwyddyn. Mae rhai llwybrau i’r copa hefyd yn ddelfrydol ar gyfer marchogaeth, rhedeg a beicio mynydd.

Mae cyfyngiadau gwirfoddol sy’n ymwneud â beicio mynydd ar waith ar adegau penodol o’r flwyddyn i sicrhau diogelwch a mwynhad pawb ar y mynydd.

Cyfyngiadau Beicio Gwirfoddol ar Yr Wyddfa:

Rhwng 1 Mai – 30 Medi o 10:00-17:00, nid ydych yn cael:

  • Beicio i neu o gopa’r Wyddfa ar hyd llwybrau ceffylau, yn benodol:
  • Beicio ar unrhyw ran o Lwybr Llanberis
  • Beicio ar Lwybr y Mwynwyr rhwng Pen y Pass a Llyn Llydaw
  • Beicio ar Lwybr Cwellyn i gyrraedd y copa. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio’r rhan isaf o Lanberis (Llwybr Cwellyn drwy Fwlch Maesgwm i Lyn Cwellyn)
  • Beicio ar Lwybr Rhyd Ddu rhwng ardal Pen ar Lôn i gopa’r Wyddfa

Nid yw’r cyfyngiadau hyn ar waith rhwng 1 Hydref – 30 Ebrill.

Beicio a’r gyfraith

Cofiwch fod y gyfraith (Deddf Cefn Gwlad 1968) yn ei wneud yn ofynnol i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogwyr pan fyddant ar lwybrau ceffylau.

Mae beicwyr sy’n beicio’n “fyrbwyll a diofal, heb dalu sylw dyladwy…neu’n cymryd rhan mewn ras neu brawf cyflymder” yn mynd yn groes i’r Ddeddf Traffig Ffordd 1988.