Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Llwybrau coedwig troellog, esgynfeydd godidog a theithiau hamdden i’r teulu

Er fod Eryri’n adnabyddus am ei milltiroedd o lwybrau cerdded, mae gan y Parc Cenedlaethol ystod eang o gyfleoedd beicio yn ogystal.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i lwybrau coedwig troellog, ffyrdd â golygfeydd syfrdanol a theithiau hamdden i feicwyr o bob gallu.

Uchafbwyntiau beicio Eryri

Mae cyfleoedd beicio eang ym Mharc Cenedlaethol Eryri i feiciwyr o bob gallu.

Beicio mynydd
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i un o’r canolfannau beicio mynydd cyntaf ym Mhrydain yn ogystal â llu o lwybrau beicio mynydd eraill.
Beicio ffordd
Mae ffyrdd heriol y Parc Cenedlaethol yn troelli drwy ddyffrynnoedd syfrdanol. Dyma ffyrdd perffaith ar gyfer beicio ffordd.
Beicio i bawb
Mae Llwybr Mawddach a Lôn Gwyrfai yn deithiau perffaith i feicio fel teulu neu i’r rheini sydd eisiau taith hamddenol drwy rhai o ardaloedd harddaf Eryri.
Gwarchod Eryri
Mae beicio o amgylch Eryri yn un o’r ffyrdd gorau i leihau eich ôl-troed carbon tra’n ymweld â’r ardal.
Beicio yn Eryri
Cyclists on the Mawddach trail
Llwybr Mawddach

Mae Llwybr Mawddach yn lwybr aml-ddefnydd sy’n ymestyn rhwng Dolgellau ac Abermaw. Dyma lwybr poblogaidd gyda teuluoedd a cherddwyr o bob gallu.

Llwybr Mawddach

Lôn Gwyrfai

Llwybr aml-ddefnydd yw Lôn Gwyrfai sy’n ymestyn rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert. Mae’r llwybr yn addas i feicwyr o bob gallu.

Lôn Gwyrfai

Drone image of Coed y Brenin mountain bike trail
Canolfan Coed y Brenin

Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf ym Mhrydain. Mae nifer eang o lwybrau beicio mynydd i gychwynwyr, teuluoedd a’r rhai profiadol.

Coed y Brenin

Lôn Gwyrfai which passes through Beddgelert Forest
Coedwig Beddgelert

Mae llwybrau beicio Bedwen a Derwen yng Nghoedwig Beddgelert yn lwybrau sy’n addas i feicwyr a theuluoedd sydd wedi arfer â beicio yn yr awyr agored. Mae Lôn Gwyrfai yn rhedeg wrth law.

Coedwig Beddgelert

Parc Coedwig Gwydir

Mae dau lwybr beicio mynydd anodd ym Mharc Coedwig Gwydir—Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Mae Parc Coedwig Gwydir yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Parc Coedwig Gwydir

Gwybodaeth