Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd yn weithgaredd poblogaidd yn Eryri. Fodd bynnag, i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, mae cyfres o ganllawiau y dylech eu dilyn.

Beicio a’r gyfraith

Cofiwch fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogwyr pan fyddant ar lwybrau ceffylau.

Gofalu amdanoch eich hun

  • Gwnewch yn siŵr fod eich beic yn ddiogel i’w reidio a byddwch yn barod ar gyfer argyfyngau.
  • Gwisgwch helmed a defnyddiwch ddeunyddiau adlewyrchol ar eich beic a’ch dillad.
  • Defnyddiwch oleuadau beicio ar ôl iddi dywyllu.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych ryw fath o ddogfen neu gerdyn adnabod gyda chi bob amser.
  • Dywedwch wrth rywun i ble rydych yn mynd, a rhowch wybod iddynt pan fyddwch wedi dod yn ôl.
  • Dysgwch egwyddorion sylfaenol Cymorth Cyntaf.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich beic dan reolaeth gennych ar wynebau ansefydlog neu wlyb, yn enwedig wrth reidio i lawr allt, gan mai dyna pryd y mae’r damweiniau mwyaf difrifol yn digwydd.
  • Cofiwch y gallwch synnu neu syfrdanu cerddwyr a marchogwyr yn hawdd fel beiciwr, yn enwedig os ydych yn reidio’n gyflym.

Gofalu am eraill

  • Beiciwch lle mae gennych Hawl Tramwy yn unig, a chadwch at yr Hawl Tramwy bob amser.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gerddwyr a marchogwyr yn ymwybodol o’ch presenoldeb, ac ildiwch iddynt. Os ydych yn dod atynt o’r tu ôl, canwch eich cloch, neu cyfarchwch nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch presenoldeb.
  • Byddwch yn ofalus i beidio â dychryn anifeiliaid.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus wrth fynd drwy fuarthau ffermydd.
  • Beiciwch mewn grwpiau bach; un ar ôl y llall lle bo angen. Ceisiwch osgoi teithio mewn clwstwr, a chofiwch fod rasio yn anghyfreithlon.

Gofalu am Barc Cenedlaethol Eryri

  • Dewiswch eich llwybr yn ofalus, yn enwedig pan fo’r tir yn wlyb, i leihau erydiad
  • Ceisiwch osgoi brecio’n sydyn, yn enwedig ar wynebau glaswelltog sy’n hawdd eu difrodi
  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad