Balans bregus rhwng nifer o heriau

Mae gwarchod ardaloedd arbennig fel Eryri yn falans bregus rhwng pob math o heriau amrywiol. Mae ein parciau cenedlaethol yn leoedd hynod sensitif lle gall newidiadau bychain arwain at sgil-effeithiau mawr.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn un o nifer o endidau sy’n gweithio tuag at warchod a gwella tirwedd a bywyd gwyllt Eryri.

The Carneddau
Newid Hinsawdd
Mae hi’n hawdd meddwl am newid hinsawdd fel problem sy’n effeithio corneli pella’r byd, ond mae’n argyfwng sydd eisoes yn cael effaith ar y Parc Cenedlaethol.
Am Newid Hinsawdd
Japane
Rhywogaethau Ymledol
Mae rhywogaethau ymledol yn rywogaethau sy’n gallu effeithio’n negyddol ar blanhigion ac anifeiliaid brodorol. Dyma un o heriau mwyaf y Parc Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diweddar ac mae gwaith mawr wedi cael ei gynnal yn ymateb i’r her.
Am Rywogaethau Ymledol
Yr heriau mewn ffigyrau

Mae rhai o’r heriau sy’n wynebu Eryri ar hyn o bryd yn anferth ac mae angen cydweithio dwys i’w datrys.

Yr Wyddfa
Mae dros 600,000 o ddringwyr yn dringo’r Wyddfa bob blwyddyn sy’n ei wneud yn un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Prydain.
Rhododendron ponticum
Llwyddodd y Rhododendron ponticum ledaenu a meddiannu dros 2,000 hectar mewn can mlynedd.
Tymheredd yn codi
Mae tymheredd Cymru dros 1°C yn uwch ar gyfartaledd na’r oedd 100 mlynedd yn ôl.
Gwirfoddoli
O flwyddyn i flwyddyn, mae oddeutu 130 o wirfoddolwyr yn cynnig eu hamser i roi cymorth i Awdurdod y Parc gyda rhai o heriau mwyaf Eryri.
Meicro-blastigau
Mae adroddiad wedi dangos lefelau cynyddol o feicro-blastigau mewn rhai mannau o’r Wyddfa. Llygredd sbwriel sydd wedi ei achosi’r lefelau hyn.
Warden Parc Cenedlaethol Eryri ar arfordir Eryri
Wardeniaid
Mae Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn aml yn gweithio ar reng flaen ymgyrchoedd sydd yn mynd i’r afael a’r heriau sydd yn wynebu Eryri. Gall eu gwaith amrywio yn ddyddiol o ymgysylltu â chymunedau’r Parc Cenedlaethol i waith adfer a gwarchod tirweddau.
Wardeniaid y Parc Cenedlaethol
Mae gwirfoddolwr yn gweithio ar lwybr carreg
Gwirfoddoli
Mae cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn gonglfaen i’r gwaith o warchod a gwella rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Gwirfoddoli