Dewch i wneud crefftau yng ngardd Yr Ysgwrn yng nghwmni Emma Metcalfe. Mae 4 sesiwn gwahanol i ddewis ohonynt.

Dewch draw i'r Beudy Llwyd a byddwn yn eich hebrwng i'r ardd.
Disgwylir i rieni a gwarchodwyr aros ar y safle tra bod plant yn cymryd rhan yn y weithgaredd.

Manylion y digwyddiad

Dydd Mercher, Awst 6ed: 13:30-15:30
Argraffu gyda phlanhigion - defnyddio 'platiau gelli'

Dydd Mercher, Awst 13eg: 13:30-15:30
Creu cartref bychan i Dylwyth Teg neu Ddewin

Dydd Mercher, Awst 20fed: 13:30- 15:30
Creu gardd mewn pot blodau

Dydd Mercher, Awst 27ain: 13:30-15:30
Creu papur ein hunain gyda blodau o'r ardd

Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW
Grŵp oedran: Yn addas i blant rhwng 4-11 (neu iau gyda help rhiant/gwarchodwr)
Nifer y lleoedd sydd ar gael: 15 lle ym mhob sesiwn
Cost: £3 y plentyn

Archebu ac ymholiadau
I ganslo’ch archeb neu wneud ymholiad ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â’n Swyddog Cynnwys Digidol:
📧 sara.williams@eryri.llyw.cymru

Archebu lle
Sesiwn
Nifer o fynychwyr

Sesiynau Yn yr Ardd gydag Emma

From: £3.00

Dewch i wneud crefftau yng ngardd Yr Ysgwrn!

Category: