Dan arweiniad Ioan Davies, Warden Ardal Nant Conwy
Ymunwch â ni ar gyfer Taith y Warden y mis hwn, lle bydd un o’n Wardeiniaid yn eich arwain ar un o’u hoff lwybrau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Ym mis Hydref, bydd Ioan Davies, Warden Ardal Nant Conwy, yn arwain taith gerdded 10km o amgylch Llyn Crafnant a Llyn Geirionydd — gan gychwyn o bentref Trefriw.
Dyma gyfle gwych i fwynhau tirweddau’r hydref, gan hefyd ddarganfod a dysgu mwy am yr ardal.
Cyfarfod
Maes parcio’r pentref, gyferbyn â Melin Wlân Trefriw (Cyfeirnod Grid: SH278107 363074)
Y daith gerdded
-
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 25 Hydref
-
Amser: 9:30yb
-
Pellter: 10km
-
Hyd: Tua 3 awr
-
Gweld map o’r llwybr yma.
Paratoi
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol: dillad dal dŵr, esgidiau cerdded cadarn, a digon o fyrbrydau a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r bore.
Taith y Warden: Llyn Geirionydd & Crafnant
Dyma gyfle gwych i fwynhau tirweddau’r hydref, gan hefyd ddarganfod a dysgu mwy am yr ardal.