Dan arweiniad Dafydd Eryl, Warden Ardal y Carneddau.
Ymunwch â ni ar gyfer Taith y Warden y mis hwn, lle bydd Dafydd Eryl, Warden Ardal y Carneddau, yn arwain taith gerdded 7km uwchben Llanfairfechan.
Mae’r daith arfordirol hon yn cynnig golygfeydd eang dros y môr ac yn eich arwain drwy dir pori mynydd a llwybrau hanesyddol ar hyd y ffordd.
Y daith gerdded
-
Parcio: What3Words
-
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Rhagfyr
-
Amser: 9:30yb
-
Pellter: 7km
-
Hyd: Tua 3 awr
- Gweld map o’r llwybr yma.
- Graddfa'r daith: Cymedrol
Paratoi
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol: dillad dal dŵr, esgidiau cerdded cadarn, a digon o fyrbrydau a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r bore.
Archebu lle
Sesiwn
Rhagfyr 15, 2025 (09:30 - 12:00)
Nifer o fynychwyr
Taith y Warden: Llanfairfechan
Dyma gyfle gwych i fwynhau tirweddau Eryri, gan hefyd ddarganfod a dysgu mwy am yr ardal.