Mae rhan o goeden eiconig y Sycamore Gap wedi ei phlannu yn Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri heddiw, gan greu etifeddiaeth barhaus o un o nodweddion naturiol mwyaf adnabyddus Prydain.
Mae’r plannu’n rhan o fenter ar draws y DU, dan arweiniad National Parks UK mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Northumberland a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fydd yn gweld coed ifanc yn cael eu plannu ym mhob un o’r pymtheg Parc Cenedlaethol.
Safodd coeden Sycamore Gap wrth ymyl Mur Hadrian am dros ganrif. Er na ellir disodli’r goeden wreiddiol, mae’r genhedlaeth newydd yma o goed yn sicrhau bod ei stori’n parhau.
Yn Eryri, mae’r goeden wedi cael ei phlannu yn Yr Ysgwrn, cartref hanesyddol y bardd Hedd Wyn, safle sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn hanes yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Yn safle o bwysigrwydd cenedlaethol, mae’r Ysgwrn yn gartref sy’n cynnig ei hun fel noddfa naturiol i’r goeden ac yn leoliad addas a phwrpasol fel symbol o undod y pymtheg Parc Cenedlaethol.
Mae’r plannu’n digwydd wrth i Eryri nodi 75 mlynedd ers ei ddynodiad gan atgyfnerthu rôl y Parciau Cenedlaethol wrth warchod tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Wrth i ni ddathlu 75 mlynedd fel Parc Cenedlaethol, mae’n rhoi teimlad o falchder i blannu planhigyn o goeden mor eiconig.
Mae’n ein hatgoffa bod cadwraeth yn ymwneud â’r dyfodol a’r tirweddau yr ydym yn ei warchod ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Mae ei phlannu yn Yr Ysgwrn, canolfan o bwysigrwydd diwylliannol yn nodweddiadol, gan ei bod nid yn unig yn symbol o adlewyrchiad ond hefyd o adnewyddu a’r cysylltiad parhaol rhwng pobl a naws am le”.
Mae pob coeden ifanc wedi ei thyfu o’r goeden wreiddiol, gan greu cysylltiad byw â hanes y Sycamore Gap â’r cysylltiad rhwng y pymtheg Parc Cenedlaethol.