Dyma ychydig o ganllawiau i’ch helpu i addasu a chyflawni’r dasg hon yn y ffordd sy’n gweithio orau i’ch dosbarth.
Byddwch yn rhan o brofiad unigryw yn archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd, bywyd gwyllt a chadwraeth yn Eryri.
Yn sgil llwyddiant COPA1, sef y gynhadledd gyntaf o’i math i bobl ifanc yn Eryri, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno cais i fod yn rhan o COPA2, a gynhelir ar 3 a 4 Rhagfyr 2026. Bydd y gynhadledd yn digwydd dros ddau ddiwrnod, gan gynnwys aros dros nos ym Mhlas Dol-y-Moch, Maentwrog. Eleni, bydd COPA2 yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd, gan dynnu sylw at eu rôl hynod bwysig wrth gefnogi bioamrywiaeth, mynd i’r afael â’r her newid hinsawdd a diogelu ein cynefinoedd unigryw. Bydd y gynhadledd hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd Gwarchodfa Awyr Dywyll Eryri, a’r angen i warchod ein mannau arbennig.

Pwy all gymryd rhan?
Mae’r gynhadledd yn agored i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 8, a fydd ym Mlynyddoedd 8 neu 9 erbyn Rhagfyr 2026. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ysgol, ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ysgolion o fewn y Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r digwyddiad am ddim i ddisgyblion ac athrawon, gyda threfniadau ar gael i ad-dalu unrhyw gostau llanw.
Y dasg
Rydym yn gofyn i chi archwilio gofod gwyrdd lleol a chynnal arolwg syml i ddysgu mwy amdano. Gall hyn fod yn goetir, parc, gwrych, mynwent, neu hyd yn oed goeden aeddfed ar ei phen ei hun.
Byddwch yn edrych yn ofalus ar eich man dewisol, yn gwneud arsylwadau, ac yn cofnodi’r hyn a welwch am blanhigion, coed, anifeiliaid, ac arwyddion o fywyd gwyllt. Byddwch hefyd yn ystyried sut mae’r gofod yn cael ei ddefnyddio, sut mae’n gwneud i chi deimlo, ac a oes unrhyw arwyddion o effaith ddynol.
Yn olaf, byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau mewn ffordd greadigol o’ch dewis, fel poster, fideo, map, model, neu gyflwyniad.
Rydym yn annog ysgolion i wneud cais. Mae staff yr Awdurdod, ynghyd â’n partneriaid, ar gael i ymweld ag ysgolion i gynnig cymorth ymarferol a rhannu mwy o wybodaeth.
Ymgeiswyr llwyddiannus COPA2
Yn ystod y gynhadledd, bydd cyfle i:
- Aros dros nos mewn lleoliad hyfryd, yng nghanol natur Eryri.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol a rhyngweithiol sy’n addysgiadol ac yn hwyl, gan gynnwys gweithgareddau awyr dywyll a chadwraeth.
- Cyfarfod disgyblion eraill o Eryri, rhannu syniadau, a gweithio gyda’ch cyd-ddisgyblion i archwilio a diogelu Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Cyflwyno eich syniadau
Danfonwch eich cais i: copa@eryri.llyw.cymru
Neu drwy’r post i:
COPA2
Swyddfeydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth
LL48 6LF
Dyddiad cau: 10/7/2026
Pob lwc!
Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yn brosiect cadwraethol sy’n cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill sydd yn gweithio o fewn y Parc Cenedlaethol.
I ddysgu mwy am y prosiect, ewch draw i wefan Coedwigoedd Glaw Celtaidd.




Cefnogir y digwyddiad yma gan amryw o bartneriaid gan gynnwys prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE, Cronfa Her Lleoedd Lleol i Natur (Llywodraeth Cymru), a Chronfa Gymunedol Prifysgol Bangor.