Beth ydi ANPR?
ANPR (Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig) yw system gamera sy’n darllen rhifau cerbydau wrth i gerbyd fynd mewn ac allan o faes parcio.
Mae’n cofnodi’r amser mae cerbyd yn cyrraedd ac yn gadael, gan helpu i reoli parcio mewn ffordd deg ac effeithlon. Nid yw’r system yn cofnodi pwy sy’n gyrru’r cerbyd, ac mae’r holl ddata yn cael ei drin yn unol â GDPR a’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Pam fod yn Awdurdod yn cyflwyno ANPR?
Mae’r cynllun peilot wedi’i gyflwyno i helpu i reoli meysydd parcio Awdurdod Y Parc Cenedlaethol yn fwy effeithiol, i sicrhau bod y taliadau parcio cywir yn cael eu talu, gwella profiad ymwelwyr a chyfrannu at reolaeth a cynnal a chadw parhaus ar y safleoedd. Bydd hefyd yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â pharcio dros nos.
Pryd fydd yn trefniadau parcio newydd yn dod i rym?
Bydd y system barcio ANPR a’r cyfyngiadau parcio dros nos yn dod i rym ar y 13 o Orffennaf 2026. Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd y maes parcio ar gau i gerbydau rhwng 12:00am a 2:00am bob dydd.
Pwy fydd yn rheoli’r system ANPR?
Bydd y system ANPR yn cael ei reoli ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan Initial Parking, sy’n gweithredu yn unol â Chod Ymarfer y British Parking Association (BPA) ac yn cydymffurfio â holl reoliadau perthnasol y DVLA a’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) er mwyn sicrhau bod data personol yn cael ei brosesu’n ddiogel ac yn briodol.
A yw hwn yn newid parhaol?
Na. Cynllun peilot yw hwn a fydd yn yn cael ei fonitro a’i adolygu drwy gydol y tymor. Bydd adborth gan ddefnyddwyr a Chynghorau Cymuned yn cael eu ystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniadau parhaol yn y dyfodol.
A oes unrhyw fuddion ar gyfer pobl leol?
Oes, bydd parcio am ddim ar gael i gefnogi cyfleoedd lleol a hamdden:
- Awr am ddim rhwng 2:00am a 8:00 am.
- Awr am ddim ar ôl 5:30pm tan hanner nos.
Beth os ydwi’n ymweld ar gyfer gweithgareddau dŵr?
Bydd tariff ar wahân ar gyfer defnyddwyr chwaraeon dŵr. Bydd peiriannau talu penodol ar gael, ynghyd ag arwyddion clir yn egluro sut mae’r system yn gweithio.
Ydw i’n cael aros dros nos yn fy nghartref modur neu camperfan?
Na. Ni chaniateir parcio dros nos mewn unrhyw faes parcio sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Anogir ymwelwyr sy’n dumuno aros dros nos i ddefnyddio un o’r meysydd gweryslla dynodedig yn Eryri a’r cyffiniau.
Beth os oes gen i Fathodyn Glas?
Rydym yn falch o gynnig dwbl yr hawl amser parcio safonol i ddeiliaid Bathodyn Glas. Er mwyn manteisio ar y consesiwn hwn, sicrhewch fod eich Bathodyn Glas dilys yn cael ei arddangos yn glir ar ddangosfwrdd eich cerbyd drwy gydol eich ymweliad, a sganiwch eich Bathodyn Glas wrth dalu am barcio.
Oes trwyddedau parcio blynyddol ar gael?
Oes. Os ydych yn defnyddio meysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rheolaidd, efallai yr hoffech brynu Trwydded Barcio Blynyddol. Mae’r drwydded flynyddol yn eich galluogi i barcio yn ein meysydd parcio cyfranogol drwy gydol y flwyddyn (1 Ebrill i 31 Mawrth).
Mae’r manylion llawn, gan gynnwys prisiau, telerau ac amodau, a sut i wneud cais ar gael ar ein tudalen Trwyddedau Parcio Blynyddol.
Gyda pwy allai gysylltu os oes gen i gwestiwn, sylw neu gŵyn?
Oes oes gennych unrhyw gwestiynau neu am roi adborth am y cynllun peilot, neu os ydych am roi sylw neu gŵyn, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri parc@eryri.llyw.cymru