Ymunwch â ni ar gyfer Taith y Warden y mis hwn, dan arweiniad Robat Davies, Warden Ardal Mawddach, yng nghoetiroedd hardd Coed Abergwynant. Bydd hon yn daith gerdded hamddenol, addas i deuluoedd, wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i fygis a phlant ifanc, gan ddilyn llwybr coetir hawdd o tua 2–3 km.
Manylion y daith
- Man cyfarfod: Maes Parcio Llyn Penmaen
- Gweld ar What3Words
- Gweld ar Google Maps
- Dyddiad: Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf
- Amser: 14:00pm
- Pellter: 2–3 km
Mae hon yn daith gerdded hamddenol drwy goetir, wedi’i chynllunio fel llwybr ‘mynediad hawdd’ sy’n addas ar gyfer teuluoedd, bygis, ac unrhyw un sydd eisiau taith gerdded heb adrannau serth na thechnegol.
Cyfeirnod Grid: SH 67452 17498
Paratoi
Er mai llwybr hawdd yw hwn, rydym yn dal i argymell gwisgo esgidiau cerdded addas a dod â dillad sy’n addas i’r tywydd, gan y gall amodau yn Eryri newid yn gyflym. Cynghorir byrbrydau ysgafn a dŵr hefyd.
Mae’r digwyddiad am ddim, gyda rhoddion yn ddewisol os hoffech gefnogi ein gwaith. Mae rhoddion i'n tîm Wardeiniaid a Thîm Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn helpu i ariannu gwaith hanfodol cynnal a chadw llwybrau a chynnal mynediad i gefn gwlad yn Eryri.
Taith y Warden: Coed Abergwynant
Ymunwch â ni ar gyfer Taith y Warden y mis hwn, dan arweiniad Robat Davies, Warden Ardal Mawddach.