Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn ymgynghori ar ei strategaeth ddrafft i wella mynediad a chysylltedd yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda chymorth Trafnidiaeth i Gymru. Mae’n gwahodd cymunedau a rhanddeiliaid lleol i helpu i lunio’r strategaeth ac atebion posibl i fynd i’r afael â materion parcio ac annog dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng y 1af o Chwefror a’r 7fed o Fawrth 2021. Yn ogystal â gwybodaeth a holiadur ar dudalen we’r prosiect  gwahoddir trigolion lleol i fynychu gweithdai cymunedol ar-lein sy’n canolbwyntio ar y materion a’r atebion posibl ar gyfer pob un o’r cymunedau porth:

  • Llanberis: 6.30-8.30pm ddydd Mercher y 24ain o Chwefror
  • Betws-y-Coed: 6.30-8.30pm ddydd Iau y 25ain o Chwefror
  • Beddgelert: 6.30-8.30pm ddydd Mawrth yr 2il o Fawrth
  • Bethesda: 6.30-8.30pm ddydd Mercher y 3ydd o Fawrth

Y nod cyffredinol yw darparu cynnig twristiaeth cynaliadwy o safon byd-eang sy’n caniatáu i ymwelwyr fwynhau’r ardal mewn ffordd sy’n diogelu’r dirwedd ac yn cyfrannu’n gadarnhaol  at gymunedau a’r economi leol. Darperir gwasanaethau trafnidiaeth carbon isel, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel, a gwybodaeth safonol i ymwelwyr fydd yn gwella’u hymweliadau wrth leihau eu heffaith ar y dirwedd sy’n cael ei diogelu. Bydd hyn yn eu hannog i aros yn hirach ac i archwilio’n ehangach, gan dynnu pwysau oddi ar safleoedd ‘pot mêl’.

Dylai cymunedau elwa trwy weld gostyngiad mewn pwysau parcio ceir a thraffig, gwelliant mewn gwasanaethau trafnidiaeth a  buddsoddiad mewn cyfleusterau cymunedol.  Gallai’r economi leol a thwristiaeth elwa hefyd trwy gadw rhagor o wariant ymwelwyr yn yr ardal, gydag ymwelwyr yn aros yn hirach a chynyddu niferoedd ymwelwyr yn y misoedd rhwng y tymhorau prysuraf a lleiaf prysur, ynghyd â sylfaen mwy amrywiol o ymwelwyr.

Mae’r strategaeth yn seiliedig ar argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth a gwblhawyd gan Martin Higgitt Associates yn 2020, sy’n nodi datrysiadau posibl i’r materion problemau parcio, tagfeydd traffig, llygredd a sŵn un o ardaloedd  mwyaf sensitif Parc Cenedlaethol Eryri.  Dangosodd yr adolygiad, ynghyd ag adborth o ymgynghoriadau cychwynnol, gonsensws clir nad yw ‘gwneud dim byd yn ddewis’.

Dywedodd Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa : “Mae gorddibyniaeth ar geir i gyrchu safleoedd poblogaidd o fewn calon Eryri ar hyn o bryd a phroblemau parcio dwys ar adegau prysur o’r flwyddyn yn rhwystro dibenion craidd y Parc Cenedlaethol o ddiogelu’r dirwedd, hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’r ardal, a chynorthwyo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.

Mae Partneriaeth yr Wyddfa wedi ymrwymo i ddiogelu’r mynydd a’r ardal gyfagos, tra’n gwneud y dirwedd arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr heb geir a galluogi pobl sy’n cyrraedd mewn ceir i ddod i’r ardal a’i hatyniadau trwy ddulliau amgen.  Rydym yn gobeithio y bydd cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn ein helpu i lunio’r strategaeth a llywio’r cynlluniau parcio a thrafnidiaeth cynaliadwy sy’n cael eu datblygu. ”

Mae Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen yn nodi cyfleoedd ar gyfer Yr Wyddfa ac Ogwen, ac Eryri/Gogledd Cymru yn gyffredinol, i ddod yn esiampl twristiaeth gynaliadwy ac mae’n cynnig dull twristiaeth gynaliadwy newydd uchelgeisiol sy’n dechrau trwy fynd i’r afael â’r orddibyniaeth ar geir a’r problemau parcio.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rolau a gofynion arwyddocaol ar gyfer y pedwar cymuned porth ynglŷn a darpariaeth parcio, gweithredu rhwydwaith bws gwennol a datblygiad cyfleusterau ychwanegol i ymwelwyr.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Parc Cenedlaethol Eryri gan ei bod yn hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy sy’n darparu cyfleoedd integredig i bobl archwilio’r ardal ymhellach ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus. Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau buddsoddiad cyhoeddus â phwrpas cymdeithasol ac rydym yn cyflawni prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, busnesau a chymunedau Cymru. ”

Nodyn i Olygyddion

Strategaeth Parcio a Thrafniaeth Gynaliadwy Yr Wyddfa

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi datblygu strategaeth ddrafft i helpu i wella mynediad a chysylltedd yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  Rydym am i gymunedau lleol lunio’r strategaeth honno a’n helpu i gynllunio a chyflawni gwelliannau i faterion pwysig parcio, trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio.

Mae’r strategaeth ddrafft yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth gan Martin Higgitt Associates a gwblhawyd yn 2020, sy’n amlinellu datrysiadau posibl i’r problemau parcio, tagfeydd traffig, llygredd a sŵn yn ardal fewnol fwyaf sensitif Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r adroddiad yn nodi Gweledigaeth ar gyfer Yr Wyddfa ac Ogwen, ac Eryri/Gogledd Cymru – i ddod yn esiampl o dwristiaeth gynaliadwy ac yn cynnig ymagwedd twristiaeth gynaliadwy newydd uchelgeisiol sy’n dechrau trwy fynd i’r afael â’r orddibyniaeth ar geir a’r broblem barcio.  Bydd hyn yn lleihau effaith amgylcheddol ymwelwyr ar y dirwedd warchodedig, ar yr un pryd â lleihau’r problemau a chynyddu buddion twristiaeth i gymunedau a’r economi leol. Bydd hefyd yn gwella profiad yr ymwelwyr ac yn galluogi ystod fwy amrywiol o ymwelwyr i fwynhau’r ardal.

Cafodd pedwar cymuned eu nodi yn Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen fel ‘pyrth’ posibl i ardal fewnol fwyaf sensitif Parc Cenedlaethol Eryri – Llanberis, Betws-y-coed, Beddgelert a Bethesda.  Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio adborth ar y prif flaenoriaethau ar gyfer gwella gan y cymunedau hyn ynghylch eu rôl bosibl fel pyrth i’r Parc Cenedlaethol.

Nod y cynigion hyn yw gwneud y dirwedd arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr heb geir a galluogi pobl sy’n cyrraedd mewn ceir i ddod i’r ardal a’i hatyniadau trwy ddulliau amgen.

Mae cyfranogiad trigolion, busnesau a rhanddeiliaid lleol yn ganolog i helpu i lunio’r strategaeth a’r cynlluniau wrth symud ymlaen.

Partneriaeth Yr Wyddfa

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn grŵp a sefydlwyd i greu a gweithredu cynllun rheoli newydd ar gyfer Yr Wyddfa. Mae’r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd y sefydliadau a’r tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am reoli’r mynydd ar lawr gwlad, yn amrywio o waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.

Trafnidiaeth Cymru

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TfW) i ‘Gadw Cymru i Symud’ trwy ddarparu cyngor arbenigol, gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a buddsoddiad wedi’i dargedu mewn seilwaith trafnidiaeth modern. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth y bydd Cymru gyfan yn falch ohono, sy’n wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dros y 15 mlynedd nesaf bydd yn trawsnewid y rhwydwaith ledled Cymru a’r Gororau, gyda gwasanaethau a cherbydau newydd, atebion arloesol, a rhaglen enfawr o fuddsoddi mewn gorsafoedd.  Bydd y gwelliannau hyn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau datgarboneiddio uchelgeisiol Cymru, yn ogystal â gwella iechyd corfforol a meddyliol y bobl sy’n byw yma.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cysylltwch â Clare Jones yn Grasshopper Communications ar 07793 382021 neu e-bost clare@grasshopper-comms.co.uk