Mae gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol yn ffordd wych o warchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri mor arbennig.

Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch galluoedd, mae lle i chi chwarae’ch rhan. Byddwch hefyd yn gweld bod manteision enfawr i chi: sgiliau a phrofiad defnyddiol, mwy o wybodaeth am y Parc Cenedlaethol, cyfarfod ffrindiau newydd, ymarfer corff a boddhad o wybod eich bod yn gwneud rhywbeth i helpu.

Buddion Gwirfoddoli

Mae nifer o fanteision i wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol.

Bod yn rhan o waith sy'n helpu eraill i ddeall a mwynhau Eryri
Gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru
Gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr profiadol a staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Cyfleoedd Gwirfoddoli

Amser o’r flwyddyn: Haf

Ymunwch â thîm Caru Eryri yr haf hwn i helpu i gadw Eryri yn eithriadol i bawb ei fwynhau. Byddwn yn gweithio ar rhai o lwybrau poblogaidd Eryri gan gadw’r amgylchedd yn glir o sbwriel ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd gan roi cyngor ar lwybrau a’r cod cefn gwlad.

Cofrestrwch nawr (Uniaith Saesneg)

Logo Caru Eryri

Amser o’r flwyddyn: Rhagfyr – Mawrth

Drwy gydol misoedd y gaeaf byddwn yn cynnal llawer o ddiwrnodau plannu coed a gwrychoedd ar draws y Parc Cenedlaethol. Ffordd wych o wrthbwyso rhywfaint o’ch ôl troed carbon a helpu i ofalu am ein planed am flynyddoedd i ddod.

Amser o’r flwyddyn: Mawrth – Hydref

Mae Wardeiniaid Gwirfoddol yn cynorthwyo wardeniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ofalu am Eryri, gan gynnwys cynnal a chadw llwybrau, codi sbwriel a darparu gwybodaeth i ymwelwyr.

*NODWCH os gwelwch yn dda nad oes gennym le i dderbyn Wardeiniaid Gwirfoddol newydd ar hyn o bryd. Cadwch olwg ar y dudalen yma, ond yn y cyfamer efallai yr hoffech ystyried ymuno â chynllun gwirfoddoli Caru Eryri (gwelwch uchod).

Cynllun Wardeinaid Gwirfoddol

Amser o’r flwyddyn: Gwanwyn – Hydref

Ymunwch â’r tîm gwych o wirfoddolwyr sydd yn cadw’r ‘drws ar agor’ yn Yr Ysgwrn.

Wrth barhau i rannu negeseuon oesol cartref Hedd Wyn am ryfel, diwylliant a chymuned, byddwn yn gallu croesawu ymwelwyr o bell ac agos i Drawsfynydd.

Mae grŵp o bobl yn gwisgo dillad gwaith hamddenol a menig wedi ymgynnull yn yr awyr agored ar ddiwrnod cymylog, yn gwenu ac yn mwynhau eu hamser gyda'i gilydd mewn digwyddiad gwirfoddoli corfforaethol sy'n manylu ar gadwraeth.
Gwirfoddoli Corfforaethol
Mae ein Parc Cenedlaethol yn cynnig cyfle unigryw i dimau corfforaethol gamu allan o’r swyddfa a chyfrannu at waith amgylcheddol ystyrlon. Bob blwyddyn, rydym yn gweithio gyda gwahanol dimau ar eu profiad blynyddol o wirfoddoli a meithrin tîm, gan ysgogi cydweithrediad a phrofiad gwerthfawr, wrth wneud cyfraniad cadarnhaol i’n tirwedd syfrdanol yn Eryri.
Diwrnodau Gwirfoddoli Corfforaethol

Dyw diwrnod o wirfoddoli ddim yn unig yn egwyl o’r swyddfa – mae’n gyfle i’ch tîm gryfhau bondiau wrth wneud cyfraniad ystyrlon i Barc Cenedlaethol Eryri. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ymarferol, bydd eich tîm yn helpu i wella harddwch naturiol y parc, gan hefyd chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n newid gyda’r tymhorau. Gall gweithgareddau gynnwys:

  • Clirio llystyfiant
  • Plannu coed a gwrychoedd
  • Cynnal a chadw llwybrau troed
  • Casglu sbwriel
  • Rheoli rhywogaethau ymledol
  • Rheoli coetiroedd

Mae diwrnod arferol o wirfoddoli corfforaethol yn dechrau am 10:00yb ac yn gorffen am 3:00yp, gan gynnwys egwyl ginio (nodwch nad yw cinio’n cael ei ddarparu).

Y gost ar gyfer Diwrnod Gwirfoddoli Corfforaethol yw £500 ar gyfer hyd at 15 o gyfranogwyr. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol tuag at ein mentrau cadwraeth barhaus ac yn sicrhau cynaliadwyedd ein rhaglenni gwirfoddoli.

I drafod eich gofynion neu i wneud cais i drefnu eich diwrnod o wirfoddoli gyda ni, llenwch y ffurflen isod.

Edrychwn ymlaen at groesawu’ch tîm i Barc Cenedlaethol Eryri am ddiwrnod gwerth chweil o wirfoddoli, meithrin cydberthnasau, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n hamgylchedd.

Gwneud cais i wirfoddoli

Gallwch wneud cais i wirfoddoli drwy lenwi’r Ffurflen Gais Gwirfoddoli. Mae Cymdeithas Eryri hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yn Eryri, cysylltwch â:

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant
07584 443 919
etta.trumper@eryri.llyw.cymru