Hoffem ddiolch i Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa, gwirfoddolwyr Caru Eryri ac ein staff am eu gwaith di-flino dros y penwythnos yn glanhau sbwriel ac yn cynghori’r cyhoedd ar eu teithiau.
Nid yw’r materion a godwyd dros y penwythnos yn broblemau newydd ac o gasgliadau’r staff a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad, nid oeddent yn gymaint o broblem ag mae’r wasg wedi adrodd. Mae’r adroddiadau dros y penwythnos wedi methu cyfleu y ffeithiau yn deg a chytbwys.
Rhaid cofio mai mynydd yw’r Wyddfa, mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae’n hanfodol bod pobl yn cynllunio eu hymweliadau ymlaen llaw. Er bod Hafod Eryri (adeilad y copa) ar gau ar hyn o bryd a ni fydd yn agor tan 2023 oherwydd gwaith cynnal a chadw, mae cyfleusterau ar agor ar waelod pob llwybr i’r copa.
Rydym hefyd am bwysleisio mai canran fechan iawn sydd yn diystyrru ein cyngor a bod mwyafrif o’r cyhoedd yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn synhwyrol yn yr ardal anghysbell a gwerthfawr yma.
Ar ôl dwy flynedd anodd, mae’n anochel bydd y tymor ymwelwyr eleni yn un prysur tu hwnt. Mae’n braf gweld cymaint o bobl yn ymweld ag Eryri er mwyn mwynhau y golygfeydd a’r awyr iach ond dim ond trwy gydweithio y gallwn ni warchod a diogelu y tirweddau bregus hyn.