Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi ail-lansiad swyddogol Cynllun Yr Wyddfa – Cynllun Rheoli pwrpasol ar gyfer y mynydd, fydd yn cymryd lle ym Mhen-y-Pass ar Ddydd Mawrth, Gorffennaf 15, 2025.
Fel rhan o ddigwyddiadau’r diwrnod bydd gwahoddedigion yn teithio ar Sherpa’r Wyddfa, gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy’n cefnogi mynediad cynaliadwy yn yr ardal, mae hyn yn pwysleisio ymrwymiad y Bartneriaeth tuag at deithio cyfrifol a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Mae Cynllun Yr Wyddfa yn cynrhychioli pen llanw blynyddoedd o gydweithio, ymgynghori a chyd-ddylunio gyda chymunedau lleol, ffermwyr, cadwraethwyr, rhanddeiliaid twristiaeth a gwneuthurwyr polisi. Nod pennaf y Cynllun yw i daro cydbwysedd rhwng gwrarchod yr ecosystemau bregus, y dreftadaeth ddiwylliannol a chymunedau’r Wyddfa tra’n cefnogi mynediad diogel a gwerthfawr i bawb fwynhau’r dirwedd.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’r Wyddfa yn fwy na dim ond copa uchaf Cymru – mae’n ffynhonnell o ysbrydoliaeth, yn fan noddfa, ac yn rhan annatod o hunaniaeth ein cymunedau. Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun hwn. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Yr Wyddfa yn parhau i ysbrydoli a ffynnu am flynyddoedd lawer i ddod”.
Mae rhaglen y digwyddiad yn cynnwys prif areithiau, astudiaethau achos gan randdeiliaid yn dathlu rhai o lwyddiannau’r bartneriaeth, a dangosiad cyntaf y bennod ddiweddaraf yng nghyfres Flogs Yr Wyddfa – prosiect fideo gynhwysfawr sy’n darparu gwybodaeth i ymwelwyr ar sut i fwynhau’r Wyddfa’n ddiogel, tra’n lleihau effeithiau ar gymunedau ac amgylchedd y mynydd.
Mi fydd cyflwyniadau yn cynnwys:
- Robbie Blackhall-Miles (Plantlife Cymru) – ar briosect Natur am Byth.
- Y Cynghorydd Craig ab Iago a Gerwyn Jones (Cyngor Gwynedd) – ar lwyddiant a datblygiad Sherpa’r Wyddfa
- Dr Daniel Bos (Prifysgol Caer) – ar brosiect hanesyddol Olrhain Olion.
Mae’r ail-lansio yn nodi pennod newydd yn y weledigaeth hirdymor ar gyfer Yr Wyddfa, gan sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal yn cael ei warchod ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Mae’r Cynllun diwygiedig yn anelu at hyrwyddiad dyfnach o’r iaith Gymraeg ac yn cyd-fynd a thargedau ehangach cenedlaethol megis cydlyniant cymunedol a gwrthsefyll newidiadau hinsawdd.
Diwedd
Dim ond trwy wahoddiad mae posib mynychu. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch â:
Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn gorff cydweithredol sy’n dod ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion ynghyd sydd â diddordeb yn nyfodol y mynydd.
- Mae Sherpa’r Wyddfa yn rwydwaith bws pwrpasol a’r nôd o wella darpariaeth teithio cynaladwy o amgylch Yr Wyddfa a’r Parc Cenedlaethol.
- Mi fydd Cynllun Yr Wyddfa yn ddwiygiedig ar gael yn ddigidol yn dilyn y digwyddiad.