Mae Gwasanaeth Cadwraeth Coed ac Amaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn awyddus i ddod o hyd i goed poplys duon benywaidd sy’n tyfu y tu hwnt i Eryri, a chydweithio gyda’u perchnogion i dderbyn toriadau ohonynt. Trwy dyfu a phlannu coed benywaidd o doriadau iach o ardaloedd eraill gall coed poplys duon ffynnu yn Eryri unwaith eto.
Mae’r boplysen ddu yn goeden frodorol ac i’w gweld yn tyfu yma ac acw yn Eryri, ond yn anffodus mae ei dyfodol yn y fantol oherwydd diffyg coed benywaidd. Yr oedd poblogaeth iach o goed poplys duon yn arfer bod yn Eryri, ond yn sgil y galw am y pren golau, hyblyg ar gyfer gwaith coed bu gostyngiad sylweddol yn eu niferoedd. Gan fod y boplysen ddu yn goeden ddeuoecaidd, sef coeden sydd un ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd, ac felly angen tyfu’n agos i’w gilydd er mwyn atgynhyrchu, roedd eu gallu i wneud hynny’n llwyddiannus yn cael ei gyfaddawdu wrth i’r coed gael eu torri.
Canfu arolwg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol bod unrhyw goed y gwyddid amdanynt sy’n tyfu yn Eryri’n rhy aeddfed neu’n rhy ifanc i atgynhyrchu, felly bydd rhaid defnyddio’r dull amgen o dyfu toriadau er mwyn achub y blaen ar adferiad y rhywogaeth. Trwy ddefnyddio toriadau coed o ardaloedd eraill o’r wlad bydd yn ehangu’r gronfa genynnau gan arwain at boblogaeth iachach o goed yn y pen draw.
Meddai Rhydian Roberts, Swyddog Coed a Choedlannau Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Dyma brosiect hynod gyffrous i gychwyn ar adferiad coeden oedd unwaith yn rhan o dapestri Eryri. Yn anffodus, mae coed poplys duon yn cymryd nifer o flynyddoedd i aeddfedu felly prosiect hirdymor yw hwn, a bydd degawdau cyn y gwelwn y poplys duon wedi sefydlu’n dda ac yn ffynnu unwaith eto. Felly buddsoddiad er budd cenedlaethau’r dyfodol yw’r prosiect hwn mewn gwirionedd.
Wrth i’n poblogaeth o goed ynn ddirywio a diflannu yn sgil y clefyd coed ynn sy’n lledaenu fel tân gwyllt trwy’r wlad, mae hwyluso adferiad coed poplys duon hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen er mwyn ceisio sicrhau amrywiaeth o goed i gynnal ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau yn y dyfodol.”
Mae Awdurdod y Parc yn galw ar bobl Cymru a thu hwnt sydd â phoplysen ddu fenywaidd (sydd â blodyn gwyrdd tebyg i gynffon oen bach) yn tyfu ar eu tir i gysylltu er mwyn trafod y posibilrwydd o dderbyn toriadau o’r goeden. Pan fydd toriadau wedi gwreiddio’n llwyddiannus, bydd gofyn dewis a dethol lle i’w plannu yn ofalus er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib iddynt atgynhyrchu. Gall unrhyw un sydd â phoplysen ddu yn tyfu ar eu tir gysylltu â ni trwy e-bostio parc@eryri.llyw.cymru neu ffonio 01766 770 274.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r boplysen ddu yn goeden sy’n prinhau trwy’r DU ac erbyn heddiw i’w canfod yn tyfu yn unigol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt, yn arbennig yn Swydd Gaer, Shropshire, Gwlad yr Haf a dwyrain Lloegr.
- Gellir gwahaniaethu rhwng coed gwrywaidd a benywaidd trwy liw eu blodau (sy’n debyg i gynffon oen bach), gyda blodau coeden wrywaidd yn goch, a benywaidd yn wyrdd.
- Mae’r boplysen ddu yn darparu bwyd i sawl rhywogaeth o lindys a gwyfynod, ac yn ffynhonnell gynnar o neithdar i wenyn a phryfaid. Mae adar hefyd yn bwyta’r hadau.
- Plannwyd ychydig o goed poplys duon benywaidd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ardal Dolgellau tua 15 mlynedd yn ôl, ond ni fyddant yn ddigon aeddfed i atgynhyrchu am tua 35 mlynedd arall.
- Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274.