Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

RHODDIR RHYBUDD TRWY hyn yn ôl adrannau 30 a 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

1. O 5ed Hydref i 2il Tachwedd 2022 yn gynwysedig, rhwng 9.30 y.b. a 4.00
y. h. gall unrhyw berson â diddordeb wneud cais i’r Prif Weithredwr, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd i gael archwilio a gwneud copiau o gyfrifon yr Awdurdod uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2022 a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebion, a derbynion perthnasol yn Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol.

2. Ar y 3ydd Tachwedd 2022 (ac ar ôl y dyddiad hwnnw hyd i’r archwilydd gadarnhau bod yr archwiliad ar ben) bydd yr Archwiliwr Cyffredinol, Mr Adrian Crompton, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol dros yr ardal sy’n berthnasol i’r cyfrifon, yn rhoi cyfle iddo gael ei holi ynglyn â’r cyfrifon, a gall unrhyw etholwr neu ei gynrhychiolydd ddod i weld yr Archwiliwr yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol i wrthwynebu’r cyfrifon.

3. Ni cheir cyflwyno unrhyw wrthwynebiad a wneir ar ran yr etholwr oni roddir rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw i’r Archwiliwr Apwyntiedig o’r bwriad i wneud hynny gan nodi sail y gwrthwynebiad hwnnw. Rhaid anfon copi o’r cyfryw rybudd at yr isod yn y cyfeiriad a roddir.