Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Fel rhan o brosiect Treftadaeth Ddiwylliannol Ardal Harlech ac Ardudwy bydd dwy daith dywys arbennig yn cael eu cynnal ym mro Ardudwy’r haf hwn.

Yn ogystal â chynnig cyfle i fwynhau treulio amser yn yr awyr agored, bydd y teithiau hefyd yn rhoi cyfle i unigolion ddysgu am a gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol arbennig ardal Ardudwy, a gobeithio yn meithrin diddordeb a gwerthfawrogiad yn ein hanes cyfoethog.

Cynhelir y teithiau cerdded yng nghwmni haneswyr lleol fydd yn adrodd pob mathau o hanesion diddorol yn gysylltiedig â’r ardal – o arwyddocâd y traddodiad barddol a llysoedd yr uchelwyr i lên gwerin, hen furddunnod ac ysbiwyr!

Meddai Jessica John, Swyddog Prosiectau Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Dwi’n edrych ymlaen yn arw i gael tywys teithiau cerdded yn yr ardal hon. Nid yn unig oherwydd bod yr ardal ei hun mor fendigedig ac yn cynnig golygfeydd syfrdanol, ond hefyd oherwydd bod yna gymaint o hanesion difyr i’w hadrodd!

Mae llawer yn gyfarwydd â’r hanesion adnabyddus sy’n gysylltiedig ag ardal Ardudwy fel Castell Harlech, siambrau claddu a diwydiannau mwyngloddio ardal Abermaw: ond digon anhysbys ydi’r hanesion am holl furddunnod a hen draddodiadau’r ardal, er eu bod wedi chwarae rhan mor sylweddol yn hanes y fro.”

Cynhelir y daith gyntaf yng nghyffiniau Dyffryn Ardudwy ar Fehefin yr 28ain, lle bydd cyfle i grwydro ardal Egryn – sef ardal sydd â chyfoeth o hanes yn gysylltiedig â llysoedd yr uchelwyr a’r traddodiad barddol, ac ysbiwyr yn ystod y rhyfel cartref.

Bydd yr ail daith yn cael ei chynnal yn yr uchelfannau uwch Abermaw ar Orffennaf y 10fed, lle bydd cyfle i glywed hanesion am longddrylliadau, bedd y Ffrancwr, Dinas Oleu a rhai o adfeilion yr ardal.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y teithiau ac archebu lle ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yma .