Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu ystod eang o faterion yn Eryri, gan gynnwys gwella a gwarchod tirwedd unigryw, adfer natur, ymateb i newid hinsawdd, darparu cyfleon i fwynhau gwerthoedd arbennig Eryri a rheoli effeithiau ymwelwyr, ac maen nhw nawr yn chwilio am Brif Weithredwr newydd.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gartref i dros 26,000 o drigolion ac yn denu bron i 4 miliwn o ymwelwyr unigryw y flwyddyn, yn enwog am ei harddwch naturiol syfrdanol, gan gynnwys copaon uchel, dyffrynnoedd tawel, arfordir eang a chyfleoedd hamdden helaeth.

Bydd y Prif Weithredwr newydd yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig, cyfeiriad strategol, a chyngor arfer gorau i sicrhau bod swyddogaethau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol o fewn fframwaith o bartneriaeth rhanddeiliaid, trylwyredd deddfwriaethol, rheoli perfformiad, a chraffu gwleidyddol. Fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau dynol ac ariannol i gyflawni nodau ac amcanion yr Awdurdod.

Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys gweithredu fel y prif gynghorydd polisi, gan ddatblygu polisïau statudol a sefydliadol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd â phwrpasau yr Awdurdod a gofynion rhanddeiliaid.
​​​​​​​
Mae’r Awdurdod yn chwilio am arweinydd a fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth weithredu tri chynllun statudol sef y Cynllun Rheolaeth (Cynllun Eryri), y Cynllun Datblygu Lleol a’r Datganiad Llesiant, sydd gyda’i gilydd yn amlinellu gweledigaeth a blaenoriaethau canolig a hirdymor yr Awdurdod. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu drwy ymgynghoriadau helaeth sydd yn pwysleisio cyfranogiad partneriaeth a chymunedol i gyflawni ein nodau strategol.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mwy o wybodaeth ar wefan Goodson Thomas.