Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi derbyn gwahoddiad ar gyfer trefniant gefeillio gyda Pharc Cenedlaethol Los Alerces yn Nhalaith Chubut, Yr Ariannin.
Mae Aelodau’r Awdurdod wedi trafod a chytuno i dderbyn y cynnig mewn egwyddor ond mi fydd penderfyniad terfynol ynglŷn â’r cynnig yn cael ei wneud yng Nghyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y 30ain o Ebrill 2025. Os caiff sêl bendith mi fydd seremoni arwyddo yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Cyflwynwyd y cynnig gan aelodau o Gymdeithas Gymraeg Trevelin ac Ysgol y Cwm ac mae’n anelu at ddatblygu cydweithio diwylliannol, addysgiadol ac amgylcheddol fydd yn cryfhau cysylltiadau rhwng ein tirweddau dynodedig a hyrwyddo twristiaeth gynaladwy ac ymarferion cadwraethol.
Un o’r prif ffactorau wrth ystyried y cynnig yma yw’r cysylltiad dwfn rhwng Cymru a Phatagonia, ble ymsefydlodd cymunedau yn yr Ariannin yn y 19eg ganrif gan warchod yr iaith a thraddodiadau Cymreig yn rhanbarth Chubut. Mae’r bartneriaeth yma’n cynnig cyfle i atgyfnerthu’r berthynas yma ymhellach trwy gydweithio’n ddiwylliannol.
Mae’r cynllun gefeillio yn cael ei ddylunio i adeiladu partneriaeth hir-dymor trwy rannu arferion da mewn cadwraeth treftadaeth, heriau newid hinsawdd a datblygu cynaladwy tra’n hyrwyddo cydweithio rhyngwladol. Mae’r cynnig yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddathlu treftadaeth Gymreig ac ehangu ein cysylltiadau byd-eang.
Mae’n cynnig cyfle gwych i sefydlu prosiectau rhwng ein cenhedloedd. Gall mentrau posibl gynnwys ymchwil gwyddonol yn manylu ar rinweddau unigryw ein parciau, y fflora a ffawna a’r heriau penodol maen nhw’n wynebu.
Hefyd mi all y tirweddau ddatblygu rhaglenni cadwraeth amgylcheddol a gweithio gyda’n gilydd i danio brwdfrydedd plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am ein hardaloedd gwarchodedig.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’r cytundeb gefeillio yma yn mynd at wraidd ein hunaniaeth Gymreig a chyd-werthoedd Eryri a Los Alerces. Mae’n ddathliad o deulu rhyngwladol y Parciau Cenedlaethol – undeb o dirweddau a diwylliannau amrywiol sy’n rhannu’r un daliadau tuag at gynaladwyedd, bioamrywiaeth, treftadaeth a chymuned.
Rydym wedi ein cyffroi gyda’r cynnig i ddatblygu cysylltiad rhyngwladol newydd sydd nid yn unig yn adlewyrchu ein rhinweddau arbennig ond yn ysbrydoli gweledigaeth fyd-eang at gydweithio cadwraethol a diwylliannol”.