Yr haf diwethaf, gydag effaith pandemig Cofid-19 yn rhoi cynnydd anferthol mewn gwyliau gartref, gwelwyd niferoedd uwch nag erioed o ymwelwyr ar draws atyniadau twristiaeth Prydain. Roedd hyn yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Achosodd y don o ymwelwyr broblemau parcio a gorboblogaeth, yn enwedig ym mhrif faes parcio Pen y Pass.
Fel y daw Prydain allan o’r llwyrglo am beth sydd i’w obeithio y tro olaf, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn benderfynol i hyn beidio digwydd eto eleni. Roeddynt yn deall mai’r ateb yn rhannol i gadw trefn ar y niferoedd cyffredinol oedd rheoli’r niferoedd o geir fyddai’n dod i’w lleoliadau yn chwilio am le parcio.
Arweiniodd hyn i ‘r tîm i archwilio beth oedd ar gael i mewn systemau archebu lle parcio a fyddai’n hawdd i’w roi mewn lle heb yr angen i gael isadeiledd newydd ar y safle. Arweiniodd hyn at system rhagarchebu arlein Just Park.
O’r 8fed o Ebrill hyd at yr 8fed o Dachwedd 2021 bydd rhaid i bob gyrrwr sydd yn dymuno parcio ym maes parcio Pen y Pass ddefnyddio ap neu wefan JustPark i ragarchebu lle parcio o leiaf 24 awr o flaen llaw. Os yw’r maes parcio’n llawn yna byddant yn cael eu hannog i ddefnyddio’r cyfleusterau Parcio a Theithio yn Nant Peris a Llanberis er mwyn cyrraedd Pen y Pass.
Gan fod yr ateb hwn yn defnyddio platfform sefydledig JustPark, cymrodd ond ychydig wythnosau i’w sefydlu, gan sicrhau bod y maes parcio yn fyw ar-lein ac yn barod am archebion o benwythnos y Pasg ymlaen.
Dywedodd Anthony Eskinazi Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Just Park
“ Gyda’r galw anferthol am wyliau gartref a ragwelir drwy fisoedd yr haf 2021, mae’n arbennig gweld ein bod yn gallu cynorthwyo cyrchfan dwristiaeth mor bwysig â Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn rheoli niferoedd ymwelwyr mewn lleoliadau poblogaidd ac felly’n cyfrannu tuag at gadw pobl mor ddiogel â phosib.”
Ychwanegodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau’r Parc Cenedlaethol Eryri
“Mae hyn yn rhan o gynllun hirdymor sydd yn ddull uchelgeisiol a chynaliadwy i barcio a thrafnidiaeth yng ngogledd Eryri. Mae’r cynnig yn tanlinellu sut mae traffig, llygredd a sŵn yn cael eu lleihau yn fawr yn yr ardal fewnol yn ystod y tymor prysur, gan wella profiad yr ymwelydd yn aruthrol. Mae’r datblygiad yma yn cyd-fynd – ac yn atgyfnerthu- un o negeseuon craidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y tymor sef i gynllunio o flaen llaw, ac yn pwysleisio’r ffurfiau eraill o deithio sydd ar gael wrth ymweld â’r Wyddfa.”
Mae cyrchfannau twristiaeth ar draws y wlad yn gynyddol edrych am atebion sydyn a hawdd ar gyfer eu meysydd parcio i’w cynorthwyo i reoli niferoedd a chynyddu diogelwch. Yr haf diwethaf gweithiodd JustPark gyda Stad West Wittering i osod system debyg yn eu meysydd parcio. Enillodd y system rhagarchebu wobrwyon diwydiannol gan reoli niferoedd ymwelwyr cynyddol i’r lleoliad poblogaidd yng Ngorllewin Sussex.
Nodyn i Olygyddion
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Andrew Rhodes, Rheolwr Marchnata B2B, JustPark andrew.rhodes@justpark.com