Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno i ohirio penderfyniad ar gynnig oedd wedi ei gadarnhau am Plas Tan y Bwlch, yr adeilad rhestredig Gradd II*, er mwyn galluogi trafodaethau pellach gyda phartion a phartneriaid posib ac ymgynghori gyda’r gymuned.

Gwnaed y penderfyniad yn ystod cyfarfod heddiw o’r Awdurdod, gan adlewyrchu’r awydd i archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol yr eiddo a pharhau â’r trafodaethau gyda grwpiau cymunedol a darpar brynwyr ynghyd a ffurfioli mynediad i’r cyhoedd o amgylch Llyn Mair.

Amcangyfrifir bod angen tua £3 miliwn i ddod â’r adeilad i’r safonau cyfredol, gan dynnu sylw at y gwaith atgyweirio helaeth sydd ei angen i gynnal ei statws rhestredig Gradd II*. Bu Plas Tan y Bwlch yn gôst ariannol sylweddol i’r Awdurdod, gyda chostau rhedeg yn cyrraedd tua £250,000 y flwyddyn. Dros y degawd diwethaf, mae cyllideb yr Awdurdod wedi wynebu toriadau difrifol, ac er bod sawl model busnes gwahanol wedi’u gweithredu dros y 15 mlynedd diwethaf, nid oes yr un wedi profi’n gynaliadwy yn ariannol.

Er mwyn dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i Blas Tan y Bwlch, mabwysiadodd yr Awdurdod ddull dwyffordd yn Chwefror 2024: gosod yr eiddo ar y farchnad i archwilio diddordeb posibl tra’n parhau â’r trafodaethau gyda cwmni cymunedol sydd wedi mynegi awydd i warchod yr adeilad ar gyfer defnydd cyhoeddus neu gymunedol.

Yn ystod cyfarfod Bwrdd Plas ym mis Mehefin 2024, trafodwyd dyfodol Llyn Mair a’r coetir cyfagos, sydd yn rhan o stâd Plas Tan y Bwlch. Rydym yn deall pryderon y cymunedau lleol am fynediad hanesyddol i’r ardal, ac mae pob ffactor yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i’r trafodaethau fynd yn eu blaen.

Er bod rhai pryderon wedi codi am y diffyg ymgynghori cyhoeddus ar gamau cynnar, eglurodd yr Awdurdod fod natur sensitif trafodaethau cyfreithiol a chyfrinachol wedi cyfyngu ar ymgynghoriad cyhoeddus. Fodd bynnag, mae trafodaethau gyda chyrff cyhoeddus perthnasol wedi bod yn parhau ers tro, cytunwyd yn ogystal gan yr Aelodau i gynnal sesiwn galw-mewn gyda’r cyhoedd i wrando ar unrhyw bryderon pellach gan gynnwys sesiwn crynhoi ar ddiwedd y dydd.

O ystyried cymhlethdod y broses werthu, mae aelodau’r Awdurdod wedi penderfynu gohirio unrhyw benderfyniad tan fis Tachwedd 2024. Bydd yr oedi hwn yn caniatáu cyfleoedd i archwilio’n fwy trylwyr o’r holl opsiynau sydd ar gael, gan sicrhau bod dyfodol hirdymor Plas Tan y Bwlch yn parhau’n flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau a ffurfioli mynediad i’r cyhoedd i ran o’r coetir ac o amgylch Llyn Mair.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd yr Awdurdod:
“Mae hwn yn benderfyniad pwysig i’r Awdurdod. Rydym wedi gwrando ar bryderon y cyhoedd a’n cymunedau, ac mae’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i gysidro dyfodol Plas Tan y Bwlch. Rydym wedi cytuno i ystyried pob opsiwn posibl ac i ymgysylltu gyda’r gymuned ac i weithio’n agos gyda darpar brynwyr i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer yr adeilad hanesyddol hwn.”

 

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ailystyried y penderfyniad yn ystod cyfarfod yr Awdurdod ym mis Tachwedd 2024. Yn y cyfamser, bydd trafodaethau gyda grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus, a darpar brynwyr yn parhau.

DIWEDD

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

  1. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch ag Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru