Yn dilyn llwyddiant COPA1 yn 2024, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi ail gynhadledd hinsawdd ieuenctid sef COPA2. 

Nod COPA2 yw dod â phobl ifanc o bob rhan o Eryri ynghyd er mwyn trafod materion amgylcheddol pwysig a chwarae rhan hollbwysig wrth lunio dyfodol y Parc Cenedlaethol. Darparodd y digwyddiad cyntaf lwyfan i leisiau pobl ifanc gael eu clywed wrth drafod dyfodol  hirdymor Yr Wyddfa, gyda mynychwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau gyda’r grwpiau buddugol yn cael cyfle i fynychu cynhadledd arbennig ar y mynydd ei hun. 

Eleni, bydd COPA2 yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd, gan dynnu sylw at eu rôl hynod bwysig wrth gefnogi bioamrywiaeth, mynd i’r afael â’r her newid hinsawdd a diogelu ein cynefinoedd unigryw. Bydd y gynhadledd hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd Gwarchodfa Awyr Dywyll Eryri, a’r angen i warchod ein mannau arbennig. 

Cefnogir y digwyddiad yma gan amryw o bartneriaid gan gynnwys prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE, Cronfa Her Lleoedd Lleol i Natur (Llywodraeth Cymru), a Chronfa Gymunedol Prifysgol Bangor. 

Cynhelir COPA2 ar y 3ydd a’r 4ydd o Ragfyr, gyda’r disgyblion llwyddiannu yn cael cyfle i aros dros nos ym Mhlas Dol y Moch. Yn ogystal â bod yn rhan o’r gynhadledd ei hun, bydd cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dros y deuddydd. 

Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 ac 8 ar hyn o bryd (a fydd ym Mlwyddyn 8 a 9 erbyn Rhagfyr 2026), gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ysgolion o fewn y Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos. 

 

Dywedodd Gwenno Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: 

“Mae COPA yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc ymgysylltu â rhai o faterion amgylcheddol pwysicaf ein hoes, tra hefyd yn rhoi llais iddynt wrth lunio dyfodol Eryri. Yn dilyn llwyddiant y gynhadledd gyntaf, rydym yn edrych ymlaen at groesawu grŵp newydd o bobl ifanc i fod yn rhan o COPA2.” 

 

Anogir ysgolion i wneud cais, ac mae staff yr Awdurdod a sefydliadau partner ar gael i ymweld ag ysgolion i gefnogi ceisiadau a darparu rhagor o wybodaeth a chymorth. 

Diwedd 

 

Nodyn i Olygyddion: 

Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb, e-bostiwch copa@eryri.llyw.cymru  

Ar gyfer y briff ewch i wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. 

Ar gyfer ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 07900 267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru