Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Gyda’r broses o ddatblygu Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri yn tynnu tuag at ei derfyn, mae cyfnod ymgynghori cyhoeddus pellach wedi cychwyn er mwyn llunio cynllun gweithredu ategol i wireddu gweledigaeth y strategaeth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn cyd-ddylunio Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri mewn partneriaeth â Choed Cadw. Yn ystod y cyfnod datblygu, ymgynghorwyd â’r cyhoedd a pherchnogion a rheolwyr tir er mwyn sicrhau eu bod yn rhan greiddiol o’i datblygiad.

Bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w mabwysiadu’n llawn yn y Gwanwyn. Yn y cyfamser, mae’r Awdurdod yn awr am droi ei gorchwylion tuag at ddatblygu cynllun gweithredu atodol, unwaith eto ar y cyd â rhanddeiliaid a’r cyhoedd trwy broses ymgynghori.

Gweledigaeth hirdymor dros gyfnod o 100 mlynedd yw Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri, a bydd y cynllun gweithredu atodol yn nodi sut y gallwn ni weithio mewn partneriaeth i gyflawni’r weledigaeth honno. Mae’n strategaeth uchelgeisiol sy’n mynd i’r afael â’r heriau dybryd sy’n ein hwynebu yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd a cholled natur, ond sydd hefyd yn cynnig hyblygrwydd i berchnogion a rheolwyr tir weithredu fel ag y gallant, heb amharu ar dir cynhyrchiol.

Meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Trwy lunio strategaeth a chynllun gweithredu sydd â pherchnogion a rheolwyr tir yn greiddiol i’w datblygiad y gobaith yw y byddant yn eu perchnogi, ac o ganlyniad bydd yn strategaeth hyfyw a chyraeddadwy.

Mae coed a choetiroedd yn asedau pwysig sy’n cynnig buddion anferth i’r amgylchedd naturiol, ond hefyd yn darparu cyfleoedd cymdeithasol sy’n hyrwyddo iechyd a llesiant. Trwy ddatblygu strategaeth gynhwysol o’r gwaelod i fyny, gallwn sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i elwa o’r hyn sydd gan goed a choetiroedd i’w cynnig.”

Os ydych chi’n berchen ar, neu’n gyfrifol am ddarn o dir yn Eryri, boed hynny’n ardd gefn, yn barc cymunedol neu’n dir amaethyddol, hoffem i chi fod yn rhan o’r drafodaeth i ddatblygu’r cynllun gweithredu. Gallwch wneud hyn trwy alw i’n gweld yn un o’n sesiynau galw mewn yn y Flwyddyn Newydd, archebu sesiwn i gael sgwrs anffurfiol ar-lein gyda swyddogion APCE, neu lenwi holiadur ar-lein. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan APCE yma.