Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Trefnwyd diwrnod amlasiantaethol mewn ymdrech ar y cyd i ddiogelu cymuned a thirweddau Nant Gwynant ac annog twristiaeth gyfrifol.

 

Mewn partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Cynghorydd lleol June Jones, nôd y fenter hon yw mynd i’r afael â phryderon dybryd ynglŷn â rheolaeth ymwelwyr a chadwraeth amgylcheddol yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd June Jones:

“Mae Nant Gwynant yn agos at galonnau pobl leol ac ymwelwyr. Fodd bynnag, mae ei ecosystem fregus a’i harddwch o dan fygythiad fwyfwy gan arferion ymweld anghynaladwy. Drwy’r diwrnod amlasiantaethol hwn, ein nôd yw datblygu diwylliant o dwristiaeth gyfrifol, annog ymwelwyr i droedio’n ysgafn, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o drefi porth, a pheidio â thaflu sbwriel.”

 

Ôl-Cofid, mae poblogrwydd Llwybr Watkin a Nant Gwynant fel cyrchfan i ymwelwyr wedi cynyddu’n sylweddol, ond wedi wynebu heriau gan gynnwys tagfeydd parcio, taflu sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol a pharcio anghyfreithlon. Gan gydnabod y pryderon hyn, mae’r asiantaethau sy’n cymryd rhan yn dod ynghŷd i hyrwyddo arferion twristiaeth gynaliadwy a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd parchu’r cymunedau lleol, tirweddau a bioamrywiaeth.

 

Meddai’r Prif Arolygydd Lisa Jones, Heddlu Gogledd Cymru:

“Wrth i ni fentro i’r Gwanwyn, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn cychwyn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.

 Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maent yn parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys gwneud defnydd o’r cynnydd yng ngwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa sy’n cael ei ddarparu.

 Fe wnawn barhau i gydweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn helpu lleihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. Nid yn unig yn peryglu bywydau ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.”

 

Bydd cynrychiolwyr o bob asiantaeth ar gael i ymgysylltu â’r cyhoedd, ateb ymholiadau, a dosbarthu deunyddiau gwybodaeth sy’n tynnu sylw at arferion gorau ar gyfer lleihau effaith amgylcheddol.

 

Dywedodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau’r Parc Cenedlaethol:

“Fel gwarchodwyr i’r dirwedd bwysig hon, rydym eisiau i bobl fwynhau’r manteision o ran iechyd a lles o fod yn yr awyr agored, ond mae’n hanfodol ein bod yn gwarchod a diogelu Llwybr Watkin a Nant Gwynant. Trwy gydweithio a hyrwyddo ymweliadau cyfrifol, gallwn sicrhau bod yr ardal hon yn cael ei hamddiffyn i bawb ei mwynhau.”

 

Dywedodd Simon Rogers, Rheolwr Cefn-Gwlad, Eryri a Gogarth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Rydym am i ymwelwyr i Nant Gwynant fwynhau’r tirlun yn gyfrifol a chymryd pwyll i leihau eu heffeithiau ar natur a’r gymuned leol. Trwy gydweithio a’n partneriaid rydym yn gobeithio ymgysylltu a ymwelwyr a chodi ymwybyddiaeth o’r pethau syml allwn ni wneud i sicrhau bod yr ardal yma yn un hyfryd i bawb ei fwynhau”.

 

Mae’r diwrnod yn nodi ymrwymiad ehangach i hyrwyddo twristiaeth gyfrifol yn Nant Gwynant ac ar hyd Llwybr Watkin. Gan gydnabod arwyddocâd y fenter hon, mae’r asiantaethau hyn yn wedi ymrwymo i barhau i gydweithio yn y dyfodol, gan weithio law yn llaw i fynd i’r afael â heriau sy’n codi, gweithredu arferion twristiaeth gynaliadwy, ac i amddiffyn etifeddiaeth naturiol a diwylliannol yr ardal.

 

Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn deallt y bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd ymwelwyr yn ardal Nant Gwynant dros yr wythnosau nesaf. Ein nôd yw taro cydbwysedd rhwng hybu’r economi leol a gwarchod yr amgylchedd naturiol a chyrraedd gofynion y gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r ardal yn sâff a chyfrifol.

Mae mesurau parcio wedi eu cyflwyno yn Nant Gwynant mewn ymateb i heriau yn y gorffennol a rydym yn adeiladu ar y mesuriadau rhagweithiol hyn. Mae ein swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa dros yr wythnosau a misoedd nesaf i sicrhau bod y ffordd yn hygyrch ac yn sâff i bawb.”

 

Nodyn i Olygyddion

  1. Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 772 238/01766 770 274.