Mae cam sylweddol mewn datblygu twristiaeth ar y gorwel wrth i bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Eryri baratoi at lansio strategaeth newydd arloesol. Mae’r ymagwedd yma’n torri tir newydd wrth i ni fesur effeithiau twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri gan bwysleisio ar ymgysylltu cymunedol a chynaladwyedd fel y prif egwyddorion.

Mae cydweithio wedi cychwyn ar lwybr trawsnewidiol trwy ymgysylltu yn agored gyda thrigolion a gweithlu y rhanbarth. Mae’r ymgais yma i gydweithio wedi arwain at greu cyfres o egwyddorion newydd sydd wedi ei anelu at adfer cydbwysedd ecolegol a diwyllianol yr ardal tra’n galluogi cymunedau lleol i wir elwa o’r economi ymweld.

Yn ei hanfod mae’r cynllun yma’n anelu at gydbwyso cydnabyddiaeth arwyddocâd yr economi ymweld yng Ngwynedd ac Eryri tra’n sicrhau amddiffyn y rhinweddau unigryw sy’n diffinio’r rhanbarth anhygoel hon.

Mi fydd y lansiad yn gam pwysig yn natblygiad y bartneriaeth gyda siaradwyr ac arbenigwyr nodedig yn cyflwyno trosolwg o’r ymagwedd weledigaethol newydd hon. Mi fydd yn gyfle i fod ymysg y cyntaf i fod yn rhan o gyhoeddi strategaeth fydd yn siapio dyfodol twristiaeth gynaladwy yng Ngwynedd ac Eryri.

Ymunwch a ni ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog neu ar-lein ar y 25ain o Fedi er mwyn cychwyn y daith gyffrous hyn tuag at economi ymweld fwy cynaladwy a chymunedol.

 

Nodiadau:

Gallwch archebu eich lle i’r digwyddiad ym Mhlas Tan y Bwlch neu ymuno ar-lein trwy wefan y Parc Cenedlaethol.

Am ymholiadau’r wasg neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda: ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru