Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mewn cyfarfod o bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw pleidleisiodd yr Aelodau o blaid arddel yr enwau Eryri ac Yr Wyddfa yn y Gymraeg ac yn y Saesneg fel ei gilydd.  Mabwysiadwyd hefyd ddogfen Egwyddorion Enwau Lleoedd fel canllaw ar gyfer y defnydd o enwau lleoedd o fewn y Parc Cenedlaethol gan yr Awdurdod.

Rhoddodd deiseb a dderbyniwyd yn ôl ym mis Mehefin 2021, ag arni dros bum mil o lofnodion, hwb i Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ffurfioli’r defnydd o’r enwau Cymraeg Eryri ac Yr Wyddfa. Dechreuwyd y ddeiseb yn sgil cynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i’r Awdurdod ollwng y defnydd o’r enwau Saesneg Snowdon a Snowdonia. Gwrthodwyd y cynnig ar y pryd ar y sail bod Grŵp Tasg a Gorffen eisoes wedi ei sefydlu gan yr Awdurdod i graffu ar y defnydd o enwau lleoedd.

Comisiynwyd Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd gan y Grŵp Tasg a Gorffen Enwau Lleoedd i lunio cyfres o egwyddorion i’w defnyddio fel canllaw ar gyfer ymdrin ag enwau tirweddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd yr egwyddorion yn gymorth i’r Awdurdod gysoni’r ffordd mae’n ymdrin ag enwau lleoedd.

Mae’r newid i ddefnyddio’r enwau Cymraeg yn y Saesneg wedi dechrau ers rhai blynyddoedd bellach, gyda llawer o gyhoeddiadau a chyfryngau cyfathrebu digidol yr Awdurdod yn arddel yr enwau Yr Wyddfa ac Eryri wrth eu trin a’u trafod yn y Saesneg, gyda chydnabyddiaeth i’r enw Saesneg mewn cromfachau i ddilyn.

Meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

Erbyn hyn mae nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru’n arddel yr enw Cymraeg a Saesneg, neu’r Gymraeg yn unig, wrth gyfeirio at Yr Wyddfa ac Eryri, ac felly hefyd nifer o’r gweisg Saesneg a chwmnïau ffilmio prif ffrwd. Mae hyn yn hynod galonogol, ac yn rhoi hyder i ni y bydd y newid hwn yn ein hymdriniaeth ni â’r enwau yn cael ei derbyn er budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i’n treftadaeth ddiwylliannol.

Mae gennym enwau hanesyddol y ddwy iaith, ond rydym hefyd yn awyddus i ystyried y neges rydym am ei chyfleu am enwau lleoedd, a’r rôl y byddant yn ei chwarae yn ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoes drwy hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae pwrpasau’r Parciau Cenedlaethol yn dynodi’r angen i ni warchod a gwella ein treftadaeth ddiwylliannol a rhoi cyfle i bobl ddysgu am a mwynhau’r rhinweddau arbennig. Trwy arddel yr enwau Cymraeg ar ein nodweddion tirweddol mwyaf nodedig rydym yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog”.

Gan hynny, bydd y symud sydd eisoes ar droed i ddefnyddio enwau Cymraeg ym mhob cyd-destun yn parhau dros amser, wrth i gyhoeddiadau a deunyddiau dehongli’r Awdurdod gael eu diweddaru. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bawb ymgynefino â’r arfer newydd a pharhau i allu dod o hyd i’r wybodaeth y maent eu hangen yn rhwydd.