Gyda diwedd Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yn agosau, bydd cynhadledd arbennig yn cael ei gynnal ar safle Prifysgol Bangor rhwng y 13eg a’r 15fed o Ebrill 2026 er mwyn dathlu llwyddiannau’r prosiect hyd yn hyn, ac ysbrydoli eraill i barhau â’r gwaith o ddiogelu’r cynefin arbennig hwn ar gyfer y dyfodol.
Gyda’r prosiect bellach yn ei hwythfed flwyddyn, bydd y gynhadledd yn dathlu llwyddiannau’r prosiect, y gwersi a ddysgwyd a sut fydd y prosiect yn ymdrechu i sicrhau fod yr holl waith da’n parhau trwy ddatblygu partneriaethau a thargedau tymor hir. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar themâu penodol y prosiect sef gwaredu planhigion ymledol, pori cadwraethol, adfer coedlannau hynafol ac ymgysylltu. Yn ystod y gynhadledd bydd mynychwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai lle gallant ddylanwadu ar y camau nesaf er mwyn adeiladu ar lwyddiannau prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE. Er mwyn gweld rhai o lwyddiannau’r prosiect allan yn y maes bydd cyfle i fynychwyr fwynhau ymweliadau maes ar drydydd diwrnod y gynhadledd.
Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd fydd yn agor y gynhadledd, ac i ddilyn ceir cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd arbennig. Bydd Ian McDaid o Barc Cenedlaethol Glenveagh yn yr Iwerddon yn trafod rôl technoleg fodern wrth fonitro lledaeniad rhododendron; Carwyn Graves, awdur llyfr TIR: The Story of a Welsh Landscape yn trafod y cysylltiad rhwng treftadaeth ddiwylliannol ac ecoleg; a bydd cynrychiolydd o Gynghrair Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru’n rhannu cefndir, canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Cyflwr Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.
Bydd y gynhadledd, a gynhelir dros gyfnod o dri diwrnod wedi ei rhannu’n dair rhan sef Prif Gynhadledd a Gweithdai, Cinio Rhyngweithio a Theithiau Maes. Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i fynychwyr benderfynu a ydynt am fynychu’r Brif Gynhadledd yn unig, neu fod yn rhan o’r gweithgareddau ychwanegol.
Meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Gyda diwedd cyfnod prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE ar y gorwel, mae’r gynhadledd hon yn un hynod bwysig. Bydd yn fodd o sicrhau gwaddol i’r prosiect trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau, a dathlu llwyddiannau a, gobeithio, ysbrydoli eraill i barhau â’r gwaith a gychwynnwyd trwy’r prosiect er mwyn diogelu’r cynefin hynod bwysig hwn.”
Meddai Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd a phrif siaradwraig y gynhadledd:
“Mae Cymru’n parhau i fod yn un o gadarnleoedd y coedwigoedd glaw tymherus sy’n unigryw i rannau gorllewinol ynysoedd Prydain, sydd â chysylltiad dwfn â threftadaeth naturiol ein cenedl. Mae gennym felly gyfrifoldeb domestig a byd-eang i sicrhau ein bod yn gofalu am y cynefinoedd hyn a’u bod yn ffynnu. Mae prosiectau fel Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE wedi gosod sylfaen ar gyfer gweithredu pellach, tra’n dod â buddion economaidd-gymdeithasol sylweddol i rannau o Gymru wledig. Mae’n bwysig ein bod yn awr yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd trwy’r prosiect er mwyn cynorthwyo i gyflawni targedau uchelgeisiol er mwyn diogelu natur yng Nghymru a gwledydd eraill y DU.”
Mae tocynnau’r Gynhadledd yn awr ar werth a byddant yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin. Gellir archebu lle i fynychu’r gynhadledd ar wefan Celtic Rainforests LIFE End of… | Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, lle ceir hefyd ragor o fanylion ynghylch y siaradwyr gwadd, y cinio rhyngweithio a’r teithiau maes.