Mae pennod ryfeddol o hanes Yr Ysgwrn ar droed y mis hwn wrth gyhoeddi y bydd cadair Genedlaethol 1918 a luniwyd gan y crefftwr a’r ffoadur o Wlad Belg Eugene Van Fleteren, yn cael ei harddangos i’r cyhoedd yn y ffermdy. 

Am y tro cyntaf erioed bydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918 a enillwyd gan y bardd a’r gweinidog J. T. Jôb yn cael ei harddangos ym mharlwr Yr Ysgwrn o 26 Mai hyd yr hydref, ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn.  

Hyd yn ddiweddar ychydig iawn oedd yn gwybod am fodolaeth ail gadair Genedlaethol gan Eugene Van  Fleteren, y crefftwr a greodd Gadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917. Mae’r darganfyddiad hwn yn datgelu fod Van Fleteren nid yn unig wedi cynllunio a saernïo’r Gadair Ddu, ond iddo hefyd greu ail gadair Genedlaethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd y flwyddyn ganlynol.  

Roedd Eugene Van Fleteren yn ffoadur rhyfel o Mechelen yng Ngwlad Belg a symudodd i Benbedw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ble sefydlodd weithdy dodrefn llwyddiannus. Yn ystod y rhyfel, croesawyd dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru, ac mae gwaith Van  Fleteren yn enghraifft drawiadol o gyfraniad artistig y cymunedau hynny i fywyd Cymru.  

Dyfarnwyd cadair 1918 i J. T. Jôb am ei awdl fuddugol “Eu Nêr a Folant” yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd. Yn wahanol i stori drasig Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, cafodd J. T. Jôb fyw i eistedd yn ail gadair  Genedlaethol Van Fleteren gan wneud y gadair yn symbol pwerus o heddwch a goroesiad ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.  

Daeth hanes y gadair i’r amlwg yn dilyn ymweliad gan Dafydd Jôb, ŵyr y bardd, ag Yr Ysgwrn, pan ddatgelodd fod y gadair wedi aros ym meddiant y teulu. Roedd y darganfyddiad yn achos o gyffro mawr i staff Yr Ysgwrn, yn enwedig gan nad oedd bron neb yn ymwybodol fod Van Fleteren wedi saernïo ail gadair Genedlaethol.  

Yn rhan o’r arddangosfa ceir yr emyn “A bu tawelwch – wedi’r ddrycin faith”, a ysgrifennwyd gan J. T. Jôb ar noswyl y Cadoediad ym mis Tachwedd 1918. Trwy straeon Hedd Wyn, J. T. Jôb ac Eugene Van Fleteren, mae’r arddangosfa’n archwilio themâu rhyfel, colled, heddwch a chofio.  

Bydd yr arddangosfa yn agor ar 1af o Fehefin ac yn parhau yn Yr Ysgwrn tan yr hydref.