Eryri—Ysbrydoliaeth i gelfyddyd eang a chyfoethog
Mae Eryri yn le sydd wedi ysbrydoli rhai o weithiau celf fwyaf nodedig y genedl gan gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a chelf weledol o bob math.
Mae tirwedd syfrdanol y Parc Cenedlaethol yn parhau i ysbrydoli hyd heddiw gan gyfrannu’n fawr tuag at ddiwylliant a hunaniaeth yr ardal.
Eryri mewn geiriau
Ysbrydolwyd rhai o gerddi enwocaf yr iaith Gymraeg gan Eryri. Roedd rhai o feirdd mwyaf Cymru yn byw yn yr ardal ac yn dwyn ysbrydoliaeth gyson o’r dirwedd o’u cwmpas. Mae rhai o’r cerddi enwocaf a’i hysbrydolwyd gan Eryri yn cynnwys ‘Bro’ gan T.H.Parry-Williams, 'Tryfan' gan Eurig Salisbury ac ‘Atgo’ gan Hedd Wyn.
Eryri ar gynfas
Does un man gwell i brofi gwir ysbrydoliaeth Eryri ar y celfyddydau nac ar gynfas. Mae hanes faith o dirlunwyr yn dwyn ysbrydoliaeth o dirweddau Eryri gan gynnwys artistiaid cynnar megis Richard Wilson a William Turner, i artistiaid cyfoes megis Lisa Eurgain Taylor a Kyffin Williams.
Y Cerddor
Eryri ar lwyfan
Yn 2013, defnyddiwyd tirwedd anhygoel Eryri i lwyfannu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Blodeuwedd’. Cafodd y cynhyrchiad ei llwyfannu yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd—lleoliad gwreiddiol y stori enwog hon o’r casgliad chwedlonol, Y Mabinogi.
Eryri mewn cân
Mae traddodiadau hynafol Cymreig o ganu gwerin a barddoniaeth wedi parhau’n gryf yn Eryri ers y dyddiau pan oedd y beirdd yn diddanu yn llysoedd y Tywysogion. Mae Eryri hefyd yn gartref i sîn gerddoriaeth gyfoes fywiog gyda’r Gymraeg yn rhan fawr o gelfyddyd cerddorol yr ardal.