Sianel podlediad sy’n trafod materion yn ymwneud â phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau.
Penodau diweddar
Pob mis mi fydd cyflwynydd gwahanol yn darganfod beth sy’n gwneud Eryri’n eithriadol drwy leisiau yr unigolion sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan arbennig yma o’r byd.
Ym mhenodau diweddar o Bodlediad Eryri, rydym wedi bod yn archwilio effaith cyfryngau cymdeithasol ar dwristiaeth yn Eryri, pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg yn Eryri, a rôl hygyrchedd yn y diwydiant twristiaeth.
Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Thîm Achub Mynydd Ogwen, rhannu hud awyr dywyll Eryri, ac wedi trafod sut mae cymunedau’n diogelu Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Mae sgyrsiau eraill wedi cynnwys mewnwelediadau gan Brif Weithredwr yr Awdurdod, cyfweliadau gydag ysgolheigion ac artistiaid lleol, a straeon gan bobl Eryri.
Cymryd rhan
Os oes gennych chi syniad am rifyn neu ddiddordeb cymryd rhan, e-bostiwch cyfathrebu@eryri.llyw.cymru