Olion gweithgarwch dyn yn Eryri.
Mae treftadaeth ddiwydiannol Eryri yn perthyn i’r tir, yn union yr un fath â’r golygfeydd godidog a’r bywyd gwyllt byrlymus.
Does ond angen edrych ar dirwedd Eryri i sylwi ar bob mathau o olion diwydiannol—o bonciau’r chwareli enfawr sy’n brathu’r mynydd i’r tafarndai a gwestai fictorianaidd sydd yn parhau i groesawu ymwelwyr hyd heddiw.
Mae pob math o fwynau yn cuddio ym mynyddoedd Eryri, yn cynnwys copr, plwm, sinc, haearn, aur a manganîs – pob un wedi ei fwyngloddio ar ryw adeg neu’i gilydd.
Mae treftadaeth ddiwydiannol yn fwy na newidiadau i’r tirwedd. Mae’n siapio cymdeithasau, yn effeithio’r economi, wedi cadw pobl yn eu milltir sgwâr ac wedi gyrru’r Cymry a’u cynnyrch i bedwar ban byd.
Diwydiant Llechi Eryri
Does dim dwywaith mai un o ddiwydiannau mwyaf ardal Eryri oedd y diwydiant llechi. Dyma’r diwydiant a ‘roddodd do ar y byd’ gyda’r chwareli mwyaf yn gyrru eu cynnyrch i bedwar ban byd yn eu hanterth.
Mae olion y diwydiant i’w weld yn glir ym Methesda, Blaenau Ffestiniog a Llanberis—pob un dafliad carreg o ffiniau’r Parc Cenedlaethol.
Mae olion chwareli llechi hefyd i’w gweld o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Chwarel fechan yng Nghwmystradllyn oedd Chwarel Gorseddau gydag oddeutu 200 o weithwyr yno ym 1859. Caewyd y chwarel ym 1867 gan nad digon o lechi yn cael eu cynhyrchu yno. Mae olion melin lechi’r chwarel, melin Ynys y Pandy, yn parhau i sefyll hyd heddiw.
Aur
Un o’r cloddfeydd aur mwyaf oedd Gwynfynydd yn ardal Ganllwyd, Dolgellau. Cloddiwyd gwerth dros £44miliwn o aur o Wynfynydd rhwng 1884 a 1998, blwyddyn y bu i’r gloddfa gau.
Darganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 1850au gan arwain at ruthr am aur yn y blynyddoedd i ddilyn.
William Pritchard-Morgan oedd perchennog cloddfa Gwynfynydd ac roedd yn cael ei adnabod fel ‘brenin aur Cymru’. Roedd 200 o weithwyr yn cael eu cyflogi yng Ngwynfynydd gan gloddio dan olau cannwyll mewn twneli cul oedd wedi cael eu tyllu mewn i’r graig.
Twristiaeth
Mae ymwelwyr wedi bod yn ymweld ag Eryri ers y 19eg ganrif. Ar ôl i Thomas Telford gwblhau ei waith ar yr A5, ffordd sy’n cysylltu Llundain â Chaergybi, gwelodd yr ardal gynnydd mawr mewn twristiaeth.
Pentref Betws-y-coed oedd un o’r lleoedd a brofodd y twf yma mewn ymwelwyr. Oherwydd yr A5, roedd lleoedd anghysbell yn Eryri bellach yn lleoedd llawn haws i’w cyrraedd.
Manteisiodd trigolion pentrefi a threfi Eryri ar y cynnydd yma drwy agor busnesau oedd yn darparu i’r ymwelwyr. Mae rhai o’r busnesau yma’n dal i fodoli hyd heddiw fel Gwesty’r Royal Oak ym Metws-y-coed.
Cloddio copr
Dechreuodd gwaith cloddio am gopr yn ardal Nant Gwynant yn yr Oes Rufeinig ond ni fanteisiwyd ar y gwaith nes y Chwyldro Diwydiannol.
Ym 1836, roedd Cloddfa Sygun, ger Beddgelert, yn cael ei gloddio ar raddfa ddiwydiannol ac erbyn 1862 roedd dwy i dair mil tunnell o gopr wedi ei gloddio o’r graig.
Caewyd y gloddfa ym 1903 gan fod rhan helaeth o’r copr wedi ei alldynnu o’r safle.
Porthmyn
Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, roedd galw mawr am gynnyrch bwyd yn ninasoedd a threfi Lloegr. Roedd y lleoedd hyn wedi profi twf mewn poblogaeth ac nid oedd digon o dirwedd amaeth yn yr ardaloedd i gynhyrchu digon o fwyd. Felly dyma droi at ogledd Cymru.
Roedd y Porthmyn yn gyfrifol am fugeilio heidiau mawr o dda byw ar draws cannoedd o filltiroedd o draciau mynyddig. Cerddwyd yr heidiau hyn i farchnadoedd gogledd Lloegr i’w gwerthu. Roedd y daith yn rhy hir i gigyddio’r da byw ymlaen llaw.
Erbyn 1750 arferai’r Porthmyn yrru hyd at 30,000 o wartheg i farchnadoedd Lloegr bob blwyddyn.