Nid ffermdy Cymreig cyffredin yw’r Ysgwrn. Yn 1917 daeth yn symbol o genhedlaeth goll o fywydau ifanc a thrychineb cymunedau yn dilyn colledion anferth y Rhyfel Byd Cyntaf. Byth ers hynny mae pobl wedi ymweld â’r cartref i dalu teyrnged a gweld Y Gadair Ddu.
Roedd Yr Ysgwrn yn gartref i Ellis Humphrey Evans, sy’n fwy adnabyddus fel Hedd Wyn, un o feirdd enwocaf Cymru.
Er i’r ffermdy a’i stori gynrychioli trychineb colledion y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r ffermdy yn adlewyrchiad o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol ar droad yr ugeinfed ganrif.
Mae camu mewn i’r Ysgwrn fel camu’n ôl mewn amser. Mae rhan helaeth o’r celfi a’r addurniadau wedi aros yr un fath ers cyfnod Hedd Wyn.
Diolch i nawdd gan Gronfa Coffa Treftadaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, daeth Yr Ysgwrn dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar Ddydd Gŵyl Dewi 2012.
Hedd Wyn a’r Gadair Ddu
Bardd a bugail o ardal Trawsfynydd oedd Ellis Humphrey Evans—bardd sy’n fwy adnabyddus o dan ei enw barddol, Hedd Wyn.
Er nad oedd yn awyddus i ymuno â’r Rhyfel yn 1914, fel miloedd o gartrefi ar draws Cymru, daeth pwysau’r consgripsiwn i’r Ysgwrn yn 1916. Cafodd Ellis ei ladd ar ddiwrnod cyntaf brwydr Passchendaele ar Gorffennaf 31, 1917—un o frwydrau mwyaf erchyll y Rhyfel Cyntaf.
Yn y misoedd yn arwain at y frwydr, ymgeisiodd Hedd Wyn am Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ar y 6ed o Fedi, cyhoeddwyd o lwyfan yr Eisteddfod mai Hedd Wyn oedd yn fuddugol ond bod wedi ei ladd ‘rhywle yn Ffrainc’. Gorchuddiwyd y Gadair â lliain ddu a chai’r gadair ei adnabod byth ers hynny fel Y Gadair Ddu.