Chewch chi ddim tirlun mwy amrywiol a dramatig nag Eryri.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i 74 milltir o arfordir trawiadol o draethau a glannau sydd yr un mor syfrdanol â’r copaon a’r coedwigoedd.
Ychydig iawn o leoedd sydd yn y byd lle mae’n bosib profi amrywiaeth mor eang o amgylcheddau o fewn pellter mor fyr i’w gilydd. Mae
Mae aberoedd prydferth yr afon Ddyfi, Mawddach a’r Dwyryd ynghyd â’r morlin ysblennydd a’r traethau tywodlyd yn cyfrannu at yr amrywiaeth eang o dirweddau yn Eryri.
Twyni Tywod Morfa Harlech
Mae’r system twyni tywod ym Morfa Harlech yn un o’r systemau twyni tywod pwysicaf ym Mhrydain ac yn un o ddim ond llond llaw yng Nghymru.
Mae ardaloedd o’r fath yn dod yn lefydd fwyfwy prin.
Dyma un o drysorau naturiol cyfoethocaf Cymru sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt sydd wedi esblygu’n benodol i fyw mewn cynefin o’r fath.
Ynghyd â Morfa Dyffryn yn y de, mae’r system dwyni wedi ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae mannau o’r traethau wedi eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.