Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r rheolydd ac mae’n gyfrifol am eich data personol (cyfeirir ato fel “APCE”, “ni”, “ninnau” neu “ein” yn y datganiad preifatrwydd hwn).

Defnyddio a storio eich gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn cyflenwi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol tuag atoch yn y modd yr ydym yn ymdrin â’r data hwnnw. Rhaid inni gasglu’r wybodaeth yn deg, hynny yw, rhaid i ni esbonio’r pwrpas a’r sail gyfreithiol i ni ei defnyddio (bydd hyn wedi’i nodi ar y tudalennau gwe lle gellir gofyn am wybodaeth neu unrhyw ffurflen y gofynnir i chi ei chwblhau). Yn gyffredinol, rydym yn prosesu data personol mewn perthynas â chyflawni ein gwasanaethau (ein tasg gyhoeddus) neu mewn perthynas â buddiannau dilys yr unigolyn neu APCE (fel rheolydd data). Mae rhagor o wybodaeth am y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu unrhyw ddata a ddarparwyd gennych gan APCE i’w gael gan ein Swyddog Diogelu Data trwy gyfrwng y manylion cyswllt isod.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei storio mewn cronfeydd data sy’n eiddo i APCE neu sefydliad a ddefnyddir gan APCE i ddarparu gwasanaethau ar-lein ar ei ran. Rhaid i ni ddweud wrthych a ydym am drosglwyddo’r wybodaeth i unrhyw un arall. Yn gyffredinol, dim ond o fewn APCE a chan ei ddarparwyr gwasanaethau y bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio. Ni fydd fyth yn cael ei chyflenwi i unrhyw un y tu allan i APCE heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf, oni bai ei bod yn rhwymedigaeth arnom neu fod gennym ganiatâd yn ôl y gyfraith i ddatgelu hynny.

Byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd â’ch bod yn derbyn y gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdani, a’i dileu os yw’r pwrpas wedi cael ei fodloni neu eich bod wedi gofyn i ni wneud hynny, oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ei chadw. Rheolir y drefn o gadw data yn ôl Polisi Cadw a Gwaredu APCE.

Yn ogystal, mae gennych yr hawliau canlynol o dan y gyfraith diogelu data:

  • Yr hawl i gael gwybod – pan fyddwn yn casglu eich data, byddwn yn dweud wrthych pam a sut yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio
  • Yr hawl i gael mynediad – O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RHDDC), mae gennych yr hawl i gael:
    • cadarnhad bod eich data yn cael ei brosesu; a
    • mynediad at eich data personol

Mae manylion ar sut i gael eich data personol ar ein gwefan: Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

  • Yr hawl i unioni – Mae gennych hawl i gael data personol wedi’i gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu neu gael gwared ar ddata personol lle nad oes rheswm cryf dros ei brosesu’n barhaus.
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – mae gennych hawl i ‘flocio’ neu osgoi prosesu data personol. Pan fo trefniadau prosesu yn cael eu cyfyngu, gallwn storio’r data personol, ond ni chaiff ei brosesu ymhellach. Gallwn gadw digon o wybodaeth am yr unigolyn i sicrhau bod y cyfyngiad yn cael ei barchu yn y dyfodol.
  • Yr hawl i gludo data – Gallwch chi gael ac ail ddefnyddio’ch data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau. Mae’r hawl hon yn eich galluogi i symud, copïo neu drosglwyddo data personol yn hawdd o un amgylchedd TG i un arall mewn modd diogel, heb rwystr o ran defnyddioldeb.
  • Yr hawl i wrthwynebu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i:
  • brosesu yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon neu berfformiad tasg er
    budd / ymarfer y cyhoedd o awdurdod swyddogol (gan gynnwys proffilio);
  • marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio); a
  • Phrosesu at ddibenion ymchwil gwyddonol / hanesyddol ac ystadegau;
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd. – Mae’r gyfraith yn darparu mesurau diogelu i chi yn erbyn y risg y caiff penderfyniad a allai fod yn niweidiol ei gymryd heb ymyrraeth ddynol.

I arfer unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data, trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Pan fyddwn yn prosesu data gyda’ch caniatâd, mae gennych hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch chi wneud hyn trwy anfon e-bost atom yn fan hyn SDD@eryri.llyw.cymru.

Efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud cwyn ynghylch sut yr ydym yn prosesu’ch data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion ar sut i wneud cwyn ar gael ar https://ico.org.uk Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i fynd i’r afael â’ch pryderon cyn i chi fynd at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Digwyddiadau, E-Gylchlythyrau ac Arolygon Ar-lein

Rydyn ni’n defnyddio darparwr trydydd parti (mail chimp) i ddanfon ein e- gylchlythyr misol. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor e-byst a chliciau gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant. Am ragor o wybodaeth, gweler https://mailchimp.com/legal/privacy/

Lle mae’n gydnaws â’r defnydd a nodir ar gyfer eich data, efallai y byddwn hefyd yn prosesu hyn drwy gyfarpar darparwr trydydd parti ar-lein. Gweler https://www.surveymonkey.com/mp/policy/privacy-policy/ am ragor o wybodaeth.

Cwcis

Mae gwybodaeth am ein defnydd o gwcis ar gael yn ein Telerau ac Amodau.

Telerau ac Amodau

Defnyddwyr 16 ac iau

Bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o bryd I’w gilydd yn casglu data personol gan blant o dan 16 oed fel rhan o prosiect neu gynllun cydweithio efo plant ifanc. Yn unol a chanllawiau’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), mae plant dros 13 oed yn gallu rhoi eu caniatâd eu hunain ac nid oes angen caniatâd y rhieni.

Os ydych yn 13 neu drosodd rhowch eich caniatâd ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch chi’n darparu gwybodaeth bersonol i APCE. Os ydych chi’n iau na 13 oed, rhowch ganiatâd eich rhiant / gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch chi’n darparu gwybodaeth bersonol i APCE. Ni chaniateir i ddefnyddwyr roi gwybodaeth bersonol i ni heb y caniatâd hwn.

Nid ydym yn casglu data yn ymwneud â phlant yn fwriadol. Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, rhowch ganiatâd eich rhiant / gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch chi’n darparu gwybodaeth bersonol ar wefan APCE. Ni chaniateir i ddefnyddwyr roi gwybodaeth bersonol i ni heb y caniatâd hwn.

Cysylltwch am ragor o wybodaeth am brosesu data

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r corff cyfrifol (Rheolydd Data) am wybodaeth a roddwyd i ni. Ein manylion cyswllt yw:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
SDD@eryri.llyw.cymru