Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Ar ddechrau Wythnos Llysgennad Cymru, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyrraedd y garreg filltir o 1,000 o Lysgenhadon Eryri!

 

Mae Wythnos  Llysgennad Cymru yn cael ei chynnal rhwng 20-26 Tachwedd 2023, y cyntaf i’w chynnal yng Nghymru.  Mae Cynllun Llysgennad Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn rhoi hyfforddiant a gwybodaeth ar-lein yn rhad ac am ddim i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu.

Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau.  Cynigir cyrsiau ym Mharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Gâr. Bydd cwrs Llysgennad Diwylliannol Ceredigion a Chymru gyfan yn cael eu lansio yn fuan.

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at y cynllun a’r amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos.

 

Dywedodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod 1,000 o unigolion wedi eu hachredu fel Llysgenhadon Eryri. Mae eu hymroddiad i ddysgu mwy am ein Parc Cenedlaethol yn symbylu’r cydweithio ac ymrwymiad i warchod a hyrwyddo holl rinweddau arbennig Eryri. Gyda’n gilydd gallwn ysbrydoli, addysgu a meithrin dyfodol ble mae natur, cymunedau a thwristiaeth yn ffynnu law yn llaw.”

 

Yn ogystal â modiwlau ar rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol, mae rhaglen Llysgennad Eryri yn cynnig cyfleoedd pellach i ddysgu mwy am themâu megis Twristiaeth Gynaladwy a Phrosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig. Er mwyn cadw’r llysgenhadon gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Yr Awdurdod, mae modiwl adnewyddu yn cael ei gyhoeddi er mwyn i’n Llysgenhadon Aur ailgymhwyso am y flwyddyn i ddod.

 

Dywedodd David Griffith, un o Lysgenhadon Aur Eryri:

“Mae dod yn Llysgennad Aur Eryri wedi bod yn llwyfan perffaith i ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o gymeriad unigryw’r ardal gyfareddol hon o Gymru.

Gan adeiladau ar oes o brofiad o fyw a gweithio yma, mae wedi cynnau diddordebau newydd i mi yn ein diwylliant, treftadaeth, natur a’r amgylchedd. Yn enwedig wrth feithrin ymdeimlad brwd o stiwardiaeth gynaladwy, tra’n ymgysylltu ag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i hyrwyddo a chynorthwyo eu mwynhad o’n hardal.

Mae fy musnes ffotograffiaeth tirwedd wedi elwa’n aruthrol o ran hyrwyddo fy hygrededd a’m gwybodaeth fel arweinydd i ymwelwyr.”

 

Nodyn i Olygyddion:

Ar gyfer mwy o wybodaeth ewch i wefan Cynllun Llysgennad Cymru.

Am ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu yr Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru