Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Hoffem estyn ein diolch i bawb a fynychodd y sesiwn galw heibio diweddar ym Mhlas Tan y Bwlch. Mae eich sylwadau a’ch adborth yn werthfawr i ni wrth i ni ystyried dyfodol y safle pwysig hwn a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Llyn Mair a’r coetiroedd.

I’r rheini na allodd fynychu neu sydd am rannu sylwadau pellach, rydym yn dal i groesawu sylwadau drwy e-bost. Gallwch anfon eich adborth i ymgysylltuplas@eryri.llyw.cymru tan 31ain Hydref. Bydd pob sylw yn cael ei ystyried gan fwrdd yr Awdurdod.

Cwestiynau Cyffredin

A yw’r sefyllfa ariannol presennol yn effeithio ar waith y Parc Cenedlaethol?

Ydy, mae’n golygu bod rhaid i ni flaenoriaethu sut rydyn ni’n defnyddio ein cyllid. Rydym yn archwilio dulliau o leihau costau a sicrhau mwy o effeithlonrwydd i barhau i weithredu’n effeithiol. Mae pob corff cyhoeddus yn wynebu her ariannol. Mae cynnydd mewn costau chwyddiant, cynnal a chadw safleoedd, a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud hi’n hanfodol i ni gau y bwlch ariannol ychwanegol i barhau â’n gwasanaethau a diogelu’r Parc Cenedlaethol.

A all gwerthu Plas Tan y Bwlch helpu i ateb y bwlch ariannol?

Mae costau rhedeg Plas Tan y Bwlch tua £250,000 y flwyddyn. Mi fyddai gwerthu neu ddod o hyd i bartner i gymryd yr eiddo ymlaen yn lleihau’r costau hyn i’r Awdurdod.

Pam mae Plas Tan y Bwlch wedi cael ei roi ar y farchnad neu ei drafod i’w werthu yn y lle cyntaf?

Dros y degawd diwethaf, mae cyllideb yr Awdurdod wedi’i thorri’n sylweddol. Nid yw’r busnesau presennol yn y Plas wedi bod yn gynaliadwy.

Faint o fuddsoddiad sydd ei angen i ddod â’r adeilad i safon?

Mae amcangyfrif bod angen tua £3 miliwn i ddod â’r adeilad i safon, gan gynnwys atgyweiriadau helaeth.

A yw adeilad Plas Tan y Bwlch yn defnyddio llawer o garbon?

Ydy, mae Plas Tan y Bwlch yn gyfrifol am tua hanner holl ddefnydd carbon yr Awdurdod. Mae hyn oherwydd ei faint a’r gofynion gwresogi a chynnal a chadw.

Beth yw statws Llyn Mair a’r Coedlannau ar hyn o bryd?

Rydym yn ystyried dynodi’r tir fel tir mynediad agored. Nid yw’r manylion terfynol wedi’u penderfynu.