Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Ym mis Chwefror, penderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddilyn dull deuol o ran dyfodol Plas Tan y Bwlch. Roedd hyn yn cynnwys cynnig y safle ar y farchnad agored neu bartneru yn ogystal â datblygu trafodaethau gyda grwpiau cymunedol er mwyn canfod pa opsiynau oedd ar gael.

Wedi dilyn y dull hwn daeth cynnig gan darpar brynwr i law yn ogystal a diddordeb gan bartneriaid posib eraill yn ychwanegol i’r grwp cymunedol oedd yn parhau i drafod.

Pan roddwyd Plas Tan y Bwlch ar y farchnad agored yn mis Awst, codwyd pryderon gan y gymuned leol ynghylch sicrwydd mynediad yn y dyfodol i Lyn Mair a’r coetiroedd cyfagos.

I fynd i’r afael â phryderon, cynhaliodd yr Awdurdod sesiwn galw heibio agored ar Hydref 14eg, a fynychwyd gan 180 o unigolion, ac yn ogystal, derbyniwyd adborth pellach drwy ohebiaeth gyda swyddogion y Parc Cenedlaethol. Ar ôl adolygu’r sylwadau, nododd yr Awdurdod fod mwyafrif o’r ymatebwyr wedi mynegi cefnogaeth dros gynnal mynediad cyhoeddus i Lyn Mair a’r coetiroedd.

Yn ystod cyfarfod yr Awdurdod ar Dachwedd 13eg, pleidleisiodd yr aelodau i dynnu Plas Tan y Bwlch oddi ar y farchnad dros dro er mwyn darparu mwy o amser i brynwyr posibl a grwpiau cymunedol ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. Bydd hyn yn galluogi yr Awdurdod i archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol y safle yn llawn.

Ni fydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol Plas Tan y Bwlch yn cael ei wneud tan gyfarfod yr Awdurdod ar Ebrill 30ain, 2025. Bryd hynny, bydd yr aelodau’n ystyried cynllun ar gadw Llyn Mair a’r mwyafrif o’r coedlannau i aros dan berchnogaeth yr Awdurdod gyda’r bwriad y bydd gweddill yr adeiladau a’r tiriogaeth yn cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo i fentrau cymunedol.

Er nad yw cadw’r prif adeilad yn nwylo’r Awdurdod heb bartner yn opsiwn bellach oherwydd nifer o ffactorau, yn bennaf heriau ariannol, mae’r Awdurdod yn parhau i fod yn agored i drafodaethau gyda grwpiau cymunedol a phrynwyr preifat.

Bydd sesiwn galw heibio arall yn cael ei threfnu ar gyfer dechrau’r gwanwyn, gan roi cyfle i’r gymuned dderbyn diweddariadau ar unrhyw ddatblygiadau ac i ddarparu adborth pellach ar y cynlluniau cyn cyfarfod yr Awdurdod ym mis Ebrill.