Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb wrth inni gychwyn ar flwyddyn arwyddocaol llawn dathliadau wrth nodi 75 mlynedd ers i Eryri gael ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol.

Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol: 

“Mae’r flwyddyn hon yn garreg filltir bwysig i ni  fel cyfle i ni adlewyrchu ar ein gwaith ac edrych tua’r dyfodol. Fel Awdurdod mi fydd 2026 yn gyfnod arwyddocaol wrth i ni adolygu Cynllun Eryri a’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n gyfle i ni gysidro ble ydym ni fel sefydliad, yr heriau a chyfleoedd sy’n ein gwynebu a sut byddwn ni’n cynllunio’n gyfrifol a chynaladwy tuag at ddyfodol Eryri”.

Mi fydd penblwydd 75 swyddogol Yr Awdurdod yn cael ei ddathlu ar 18 o Hydref gan nodi’r dyddiad dynodwyd Eryri yn ffurfiol fel Parc Cenedlaethol. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael ei ddatblygu i nodi’r penblwydd ac i gydnabod y tirweddau, cymunedau a phartneriaethau sydd yn ffurfio Eryri.

Dathlu Rhinweddau Arbennig Eryri

Bydd llyfr bwrdd coffi, Parc Cenedlaethol Eryri: Etifeddiaeth Ar Waith, yn cael ei gyhoeddi gan Yr Lolfa yn ystod yr haf. Bydd y llyfr yn dathlu rhinweddau arbennig Eryri drwy gyfraniadau gan awduron gwadd, ynghyd â ffotograffiaeth drawiadol o’r Parc Cenedlaethol.

Cydweithio â Busnesau Lleol

Mae’r Awdurdod yn cydweithio â busnesau lleol i nodi’r pen-blwydd. Bydd Cwrw Nant yn cynnwys logo’r 75 mlwyddiant ar eu brand poblogaidd, Cwrw’r Wyddfa drwy gydol eleni, tra bydd cwmni dillad Pen Wiwar yn lansio eitem arbennig i ddathlu’r garreg filltir.

Cystadlaethau Barddoniaeth

Fel rhan o’r dathliadau, cynhelir cystadlaethau barddoniaeth mewn tri categori gwahanol: Agored, Dan 18 a Dan 11. Bydd y paneli beirniaidu’n cynnwys y beirdd Ceri Wyn Jones, Meirion McIntyre Huws, Carwyn Eckley, Anni Llŷn, Casia Wiliam a Nia Powell.

Cynhelir seremoni Cadeirio’r Beirdd yn Yr Ysgwrn ar y 21ain o Hydref, a bydd Ymryson y Beirdd arbennig yn dilyn, gyda thîm o feirdd o ogledd Eryri yn cystadlu yn erbyn tîm o’r de.

Pasbort Digidol

Bydd ap pasbort digidol newydd yn cael ei lansio cyn gwyliau’r haf, gan annog pobl i ymweld â 75 o leoliadau ledled Eryri. Bydd pob safle sydd wedi’i gynnwys yn y pasbort yn gwbl hygyrch, er mwyn sicrhau y gall pawb gymryd rhan. Bydd y 25 defnyddiwr cyntaf i gwblhau’r pasbort yn derbyn copi am ddim o’r llyfr penblwydd.

Gŵyl Fawr Eryri

Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Gŵyl Fach Eryri y llynedd ym Metws-y-Coed a Dolgellau, bydd yr Awdurdod yn cynnal Gŵyl Fawr Eryri eleni sef dathliad ehangach yn cynnwys cerddorion ac artistiaid, gweithgareddau i blant, cynhyrchwyr bwyd lleol, ynghyd â chyfleoedd i ddysgu mwy am waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i bartneriaid.

Mi fydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau a’r cyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi trwy gydol y flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth

Mae telerau ac amodau’r cystadlaethau barddoniaeth ar gael ar ein gwefan.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod, ar 07900267506 neu e-bostiwch ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
.