Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i’r Gymraeg drwy lofnodi ‘Siarter Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith’, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru i’w fabwysiadu.
Drwy lofnodi’r siarter, mae’r Awdurdod yn ailddatgan ei ymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i ddefnyddio, datblygu a magu hyder yn eu sgiliau Cymraeg.
Datblygwyd Siarter Twf gan TUC Cymru fel fframwaith galluogi sy’n helpu gweithwyr, eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r siarter yn seiliedig ar bedair egwyddor graidd: Twf a hawliau’r Gymraeg, Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol, Arweinyddiaeth ac atebolrwydd, a Dysgu parhaus a meithrin hyder.
Drwy lofnodi’r siarter, mae’r Awdurdod a’i undebau llafur yn ymrwymo i gydweithio i feithrin gweithle cynhwysol lle mae’r Gymraeg yn cael ei gweld, ei chlywed a’i defnyddio’n naturiol fel rhan o waith bob dydd. Bydd y siarter hefyd yn helpu i gryfhau cyfleoedd i staff ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus, dysgu’r iaith a datblygu eu sgiliau ymhellach, gan gyfrannu at nodau Cymraeg 2050 a’r uchelgais genedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Fel Awdurdod sy’n gwasanaethu ardal lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd pob dydd, mae hyrwyddo a chefnogi’r iaith yn ganolog i waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y Parc Cenedlaethol ac yn un o’r rhinweddau arbennig sy’n gwneud Eryri yn unigryw.
Mae sicrhau bod staff yn gallu byw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y cyhoedd yn gallu derbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith, yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau’r Awdurdod”.
Dywedodd Dr Mandy James, TUC Cymru:
“Llongyfarchiadau gwresog i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Unsain Gwynedd Môn a Phrifysgol Bangor, a GMB am yr ymrwymiad a wnaed heddiw i Siarter Twf TUC Cymru a’i egwyddorion. Mae’n hynod o arwyddocaol bod yr ymrwymiad ar y cyd i Siarter Twf yn cael ei ddatgan o gopa’r Wyddfa fel gweithred symbolaidd sy’n dangos y gefnogaeth gadarn i’r Gymraeg yn y Parc a chymunedau Eryri.
Yn wir, mae Craig yr Undeb ar lan Llyn Padarn gerllaw – a fu ynghlwm â sefydlu Undeb y Chwarelwyr yn ystod oes Fictoria – hefyd yn dangos bod yna draddodiad hir yma i sicrhau buddiannau gweithwyr a chymunedau Cymraeg Eryri.
Ond, mae’r ymrwymiad i Siarter Twf ar yr Wyddfa heddiw, yn cydnabod y bwriad i gydweithio er mwyn adnabod, trefnu a sicrhau cyfleoedd cynyddol i weithwyr ddefnyddio, dysgu a datblygu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.
O’r graig i’r copa felly, cyhoeddir bod y Gymraeg, a thwf yn ei defnydd, yn greiddiol i weithwyr, gweithleoedd a chymunedau Eryri – yn y presennol, ac i’r dyfodol.”
Fel rhan o’r dathliadau cyfanswoddwyd cyfres o englynion ar gyfer y digwyddiad gan y Cynghorydd ac Aelod Awdurdod Y Cyng. Elwyn Edwards:
Siartr Iaith y Parc
Ar lwyfan ein hunaniaeth – yn gyfan
Mae hen gof bodolaeth
Yr hil yn siartr helaeth
Yn rhoi i ni’r hyn a aeth.
Hon yw’n hiaith hir ei theithi – a’i henaint,
Iaith wen Mabinogi;
Mae hen waedd tu mewn iddi,
Hen lef yn ei chynnal hi
Ar erwau coeth Eryri, – ar wigoedd
Creigiau a choglwyni;
Ar neuaddau’r carneddi
Ceir perlau ei henwau hi.
Hon yw hanfod gwahanfur – ein huniad,
Y maen clo’n ein Rhagfur;
Ein hanes anghyfesur
A’r maen rhag bylchu o’r mur
I’w chynnal drwy’r ardaloedd – yn erwau
Eryri’r canrifoedd;
Rhown i hon y graen a oedd
Yn arhosol i’r oesoedd.
Anrhydedd i’w choleddu – yw’n y Parc,
Nodded parch y gweithlu;
Hon yw ein llais, rhown yn llu
I’w henaid rhag diflannu.
Yn ei hangen eleni – awn â gwefr
I gyd i’w pherchnogi;
Rhoddwn nodd i’w rhuddin hi,
Arwyddwn y Siartr iddi.
Elwyn Edwards
Mae’r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd ar draws yr Awdurdod i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith staff, aelodau ac ymwelwyr. Trwy weithredu egwyddorion Siarter Twf, bydd yr Awdurdod yn parhau i ddatblygu diwylliant gwaith sy’n cefnogi defnydd naturiol o’r Gymraeg ac yn sicrhau bod yr iaith yn parhau’n rhan fyw o ddyfodol Eryri a’i chymunedau.
Nodiadau i olygyddion:
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan TUC Cymru.
Am ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru