Mae ‘The Stick’ – y ddyfais glyfar wreiddiol – yn cynnig nifer di-ri o ddefnyddiau, bywyd batri diddiwedd, ac mae ar gael i bawb roi cynnig arni yr haf hwn.
- Mae ymchwil newydd yn datgelu tuedd gynyddol i ddefnyddio apiau i gyfoethogi a hwyluso amser sy’n cael ei dreulio ym myd natur gan deuluoedd.
- Cyn gwyliau’r ysgol, dywedodd bron pob rhiant a gofalwr (94%) y byddent yn hoffi i’w teulu dreulio mwy o amser ym myd natur yr haf hwn, gan dynnu sylw at awydd cynyddol i ailgysylltu â’r awyr agored.
- Mae ymgyrch ‘The Stick’ Vodafone yn lansio mewn partneriaeth â Pharciau Cenedlaethol y DU ac mae’n cynnwys ‘Stick-tionary’ – y canllaw eithaf i fwynhau dyfais glyfar wreiddiol byd natur, sy’n llawn syniadau i ysbrydoli chwarae ac archwilio yn yr awyr agored.
Heddiw, mae Vodafone wedi cyhoeddi lansiad ‘The Stick’, sy’n cael ei disgrifio fel y ‘ddyfais gludadwy hanfodol’ ar gyfer yr haf hwn, er mwyn annog teuluoedd ledled y wlad i gyfnewid amser o flaen sgrin am amser mewn mannau gwyrdd. Ar gael i roi cynnig arni’n rhad ac am ddim ym mhob parc ledled y DU, mae ‘The Stick’ yn cynnig defnyddiau di-ri ac wedi’i chynllunio i ysbrydoli chwarae yn yr awyr agored ymhlith pobl o bob oed.
Wedi’i ryddhau fel rhan o bartneriaeth VodafoneThree â Pharciau Cenedlaethol y DU, mae ‘The Stick’ yn lansio ochr yn ochr â ‘Stick-tionary’ sydd wedi’i ddylunio’n hyfryd – y canllaw eithaf i fwynhau dyfais glyfar byd natur ei hun.
Yn llawn syniadau i annog chwilfrydedd ac antur, ynghyd ag awgrymiadau ar sut y gall technoleg gefnogi dysgu a chysylltiad yn yr awyr agored, mae’r ‘Stick-tionary’ wedi’i gynllunio i helpu teuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar natur a defnyddio technoleg i wella profiadau byd go iawn, tra’n dathlu’r ffon ddiymhongar fel y ddyfais amlbwrpas wreiddiol wrth wraidd chwarae dychmygus.
Mae’n cyrraedd mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf, ac wrth i ymchwil newydd gan Vodafone ddatgelu y byddai 94% o rieni a gofalwyr yn hoffi treulio mwy o amser yn yr awyr agored yr haf hwn, mae dros hanner (55%) hefyd yn dweud bod teithiau ym myd natur ymhlith eu profiadau teuluol mwyaf cofiadwy.
Anturiaethau gydag Apiau
Mae’r astudiaeth, oedd yn holi rhieni, gofalwyr a phlant, hefyd yn dangos tuedd gynyddol i deuluoedd – sy’n cael ei alw yn Saesneg yn ‘app-venturing’ – lle maen nhw’n defnyddio dyfeisiau ac offer digidol i wella a hwyluso amser ym myd natur, yn hytrach na’i ddisodli. Dywedodd ychydig dros hanner y rhieni a holwyd (51%) eu bod yn defnyddio eu dyfeisiau i annog eu plant i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, ac mae mwy na dwy ran o dair (68%) yn gwneud hynny’n amlach nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl.
Mewn cyferbyniad â sgrolio goddefol, mae anturiaethau gydag apiau yn helpu teuluoedd i deimlo’n fwy hyderus wrth fynd allan ac archwilio natur, gydag 83% o rieni yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy diogel o wybod y gallant gadw mewn cysylltiad mewn argyfwng.
Yn ogystal â chynnig tawelwch meddwl, mae rhieni yn defnyddio eu dyfeisiau mewn ffyrdd ymarferol i alluogi amser yn yr awyr agored fel gwirio’r tywydd (63%) neu ar gyfer llywio (48%). Mae nifer fawr hefyd yn ei ddefnyddio i gefnogi dysgu eu plant drwy chwilio am atebion i gwestiynau chwilfrydig am natur (31%) ac adnabod planhigion, pryfed ac adar (27%). Mae’r mwyafrif (77%) o rieni hefyd yn dewis mynd â’u dyfais ar deithiau awyr agored i ddal eiliadau teuluol cofiadwy.
Dywedodd Nicki Lyons, Prif Swyddog Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd, VodafoneThree:
“Mae helpu pobl i adeiladu arferion digidol iach wedi bod yn flaenoriaeth i ni ers amser maith. Rydym ni’n gyffrous i weld teuluoedd yn defnyddio technoleg mewn ffyrdd pwrpasol i gyfnewid amser sgrin am amser gwyrdd – gan sbarduno chwilfrydedd, magu hyder ac annog mwy o amser yn yr awyr agored. Dyna’n union yw nod ymgyrch ‘The Stick’, mewn partneriaeth â’r Parciau Cenedlaethol, ac rydym ni’n gobeithio y bydd teuluoedd yn mwynhau ein ‘Stick-tionary’ yr haf hwn.”
O ran cefnogi arferion digidol iach, dywedodd 46% o rieni fod treulio amser ym myd natur yn eu helpu i leihau eu hamser o flaen sgriniau eu hunain, tra dywedodd hanner (50%) fod eu plant yn llai tebygol o ofyn am sgriniau pan fyddant yn brysur yn chwarae, adeiladu neu greu yn yr awyr agored. Dywedodd 30% arall bod deunyddiau naturiol fel ffyn, plu a cherrig yn chwarae rhan ganolog yng ngemau awyr agored dychmygus eu plant, gyda rhieni yn dweud bod eu plant yn troi ffyn yn amrywiaeth o bethau, gan gynnwys cleddyfau (51%), ffyn hud (49%), ffyn cerdded (44%) a hyd yn oed feicroffonau(18%).
Dywedodd Gavin Capstick, Prif Weithredwr, Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd ac arweinydd Dysgu ac Ymgysylltu ar gyfer y Parciau Cenedlaethol:
“Mae rhai o’r anturiaethau awyr agored gorau yn dechrau gyda’r pethau symlaf. Gall ffon ddod yn bron unrhyw beth mae plentyn eisiau iddo fod, a dyna’n union pam ei fod yn offeryn mor bwerus ar gyfer dychymyg a chwarae. Mae Parciau Cenedlaethol yn lleoedd lle gall teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd, magu hyder, cysylltu a dysgu mwy am natur a chreu atgofion parhaol. Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Vodafone i annog mwy o deuluoedd i fynd allan a darganfod beth sydd ar garreg eu drws yr haf hwn.”
Ac nid rhieni yn unig sy’n chwilio am gydbwysedd rhwng amser o flaen sgriniau ac amser ym myd natur, cytunodd 81% o’r plant a holwyd fod y cydbwysedd hwn yn bwysig, tra dywedodd hanner (50%) fod bod yn yr awyr agored yn gwneud iddynt deimlo’n hapus. Roedd chwarae allan gyda ffrindiau a theulu hefyd ar frig eu hoff ffyrdd o dreulio amser.
Ychwanegodd yr Athro Helen Dodd, Athro Seicoleg Plant, Ysgol Feddygaeth Caerwysg:
“Pan fydd plant yn cael y cyfle i gyfarwyddo eu chwarae eu hunain, maen nhw’n gwneud llawer mwy na diddanu eu hunain yn unig. Mae’r eiliadau bob dydd hyn, fel chwarae yn yr awyr agored ac ail-ddychmygu’r defnydd o ffon, yn helpu plant i adeiladu annibyniaeth a gwytnwch, tra’n rhoi’r rhyddid iddynt ymgysylltu â’r byd mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ystyrlon ac yn bleserus iddyn nhw.”
Mae partneriaeth VodafoneThree a’r Parciau Cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddiogelu ecosystemau, cefnogi cymunedau a defnyddio cysylltedd i helpu mwy o bobl i fanteisio ar natur a’i fwynhau. Trwy ymgyrch ‘The Stick’, mae Vodafone yn hyrwyddo dull cytbwys o ddefnyddio technoleg, un lle gall offer digidol wella profiadau byd go iawn. Gall rhieni lawrlwytho’r ‘Stick-tionary’ ac adnoddau rhianta digidol eraill i helpu i gadw’n ddiogel ar-lein yma.
Awgrymiadau gorau’r Athro Helen Dodd ar gyfer anturiaethau gydag apiau yr haf hwn:
- Ei gwneud hi’n antur: Mae gan blant awydd naturiol i archwilio a gwthio ffiniau. Oherwydd hyn, mae fframio taith gerdded fel ‘ymgyrch’ neu ‘antur’ yn aml yn llawer mwy apelgar i blant a gall helpu i greu mwy o frwdfrydedd. Gofynnwch iddyn nhw helpu i bacio cyflenwadau, rhoi cynnig ar lwybr newydd neu greu helfa drysor natur syml i wneud amser yn yr awyr agored yn fwy cyffrous.
- Gadael i’r plant arwain: Mae teimlo bod rhywun yn ymddiried ynoch chi ac yn credu yn eich gallu yn helpu i feithrin hyder ac yn cyfrannu at lesiant. Felly, edrychwch am gyfleoedd i adael i blant arwain a chael ymreolaeth. Cymerwch fap a gadewch iddyn nhw wneud penderfyniadau ynghylch pa ffordd i fynd. Mae hyn yn dangos iddyn nhw eich bod chi’n ymddiried ynddyn nhw ac yn credu yn eu gallu.
- Creu lle i chwarae: Gadewch amser ar gyfer adeiladu cuddfannau neu sblasio mewn nentydd. Gall chwarae anturus ym myd natur gefnogi iechyd meddwl da – mae ymchwil yn dangos po fwyaf o amser mae plant yn ei dreulio yn chwarae yn yr awyr agored, y lleiaf yw eu symptomau o orbryder ac iselder.
- Adeiladu cysylltiad â natur: Mae teimlo cysylltiad â natur wedi bod yn gysylltiedig â mwy o hapusrwydd a lles, felly anogwch blant i sylwi ar yr hyn y gallant ei weld, ei glywed, ei arogli a’i deimlo, a rhyngweithio â natur trwy nodi adar a choed gyda’i gilydd neu godi moch coed. Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod enwau pethau, mae yna apiau gwych a all eich helpu i ddysgu gyda’ch gilydd.
- Mapio’r diwrnod: Gosodwch ddisgwyliadau, cynlluniau a therfynau clir. Mae gwneud cynlluniau’n glir ymlaen llaw yn golygu bod plant yn gwybod beth fyddan nhw’n ei wneud a phryd. Gall hyn helpu gyda thrawsnewidiadau er enghraifft o chwarae ar y sgrin i fynd allan i’r awyr agored. Mae rhagweladwyedd yn lleihau ansicrwydd, sydd yn ei dro yn lleihau pryder. Mae hefyd yn rhoi mwy o ymdeimlad o reolaeth i blant.
(Darn newyddion gan National Parks Partnerships).