Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ddechrau newidiadau sylweddol i reoli defnydd dosbarthiadau cynllunio yn Eryri. Mae’r newidiadau arfaethedig yn deillio o gynnydd o effaith tai gwyliau ac ail dai ar gymunedau lleol, yr iaith a’r diwylliant.

Heddiw, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cymeradwyo cymryd y cam nesaf i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli newid defnydd tai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau), cam hanfodol er mwyn rheoli defnydd tai o fewn Eryri. Mae’r strategaeth yma yn cyd-fynd ag ymdrechion tebyg gan Gyngor Gwynedd fydd yn dod i rym ym mis Medi 2024.

Mae dadansoddiad data’n dangos bod cyfartaledd y canran o ail dai a llety gwyliau yn y Parc Cenedlaethol yn 2023 yn 17.4%, mae’r ffigwr yma’n sylweddol uwch na ardaloedd yng Ngwynedd a Chonwy sy’n cael effeithiau pellgyrhaeddol ar fforddiadwyedd tai.

Mi fydd y camau nesaf yn cynnwys ymgysylltu sylweddol dros gyfnod o chwe wythnos a bydd y cyhoedd yn derbyn gwybodaeth trwy wefan yr Awdurdod, diweddariadau cyfryngau cymdeithasol a gohebiaeth uniongyrchol.

Mi fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cysidro’r holl sylwadau cyhoeddus yn ofalus ac yn fanwl cyn cyflwyno Adroddiad Ymgynghorol a phenderfyniad terfynol ar weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4. Os bydd yn cael ei gadarnhau, mi fydd yn dod i rym ym mis Mehefin 2025 yn dilyn cyfnod rhybudd o 12 mis.

Mi fydd nifer o asesiadau trwyadl yn cael eu cynnal megis Asesiad Effaith Cydraddoldeb, Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg ac alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a bydd hyn oll yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.

Mae trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd a’r amcan i sicrhau adnoddau cynllunio ychwanegol fydd yn hanfodol i weithredu’r newidiadau yn effeithiol.

Mae safbwynt rhagweithiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn adlewyrchu ein hymroddiad tuag at sicrhau llesiant a chynaladwyedd ein cymunedau yng nghanol heriau ail dai a llety gwyliau. Mae’r newidiadau arfaethedig yn anelu at daro cydbwysedd gan warchod cymeriad Eryri at genedlaethau’r dyfodol.