Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n gwahodd amaethwyr a rheolwyr tir i fanteisio ar gynllun newydd i godi terfynau traddodiadol yng nghefn gwlad Eryri.

Mae terfynau traddodiadol yn rhan annatod o dirlun Eryri a thu hwnt – yn waliau cerrig sych a gwrychoedd, i ffensys crawiau prinnach yr ardaloedd llechi. Yn ogystal â chyflawni swyddogaeth ymarferol, mae’r terfynau hyn yn hynod bwysig i fywyd gwyllt a’r amgylchedd hefyd.

Mae terfynau traddodiadol o garreg neu wrych yn cynnig cysgod i anifeiliaid rhag tywydd eithafol y gaeaf, neu haul tanbaid yr haf, tra ar yr un pryd yn darparu cynefin i fywyd gwyllt. Mae waliau cerrig a gwrychoedd yn cynnig lloches ddiogel i greaduriaid bychain, a hefyd yn darparu rhwydwaith o goridorau diogel iddynt grwydro o un lle i’r llall.

Mae gwrychoedd yn arbennig o fuddiol i fioamrywiaeth a’r amgylchedd fel ei gilydd. Maent yn darparu ffynhonnell fwyd i fwyd gwyllt, a hefyd o fudd i’r amgylchedd gan eu bod yn gwella ansawdd yr aer, yn storio carbon ac yn lliniaru effaith glaw trwm trwy arafu treiddiant dŵr.

Diolch i nawdd trwy gynllun ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cymorth ariannol i reolwyr tir i adfer terfynau traddodiadol ar eu tiroedd.

Meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Dyma gynllun arbennig fydd o fudd i reolwyr tir a’r amgylchedd, yn ogystal ag economi cefn gwlad yn ehangach trwy ddarparu cyfleoedd gwaith i gontractwyr lleol. Bydd y cynllun yn rhedeg am gyfnod o dair blynedd, gyda’r ffenestr gyntaf ar gyfer mynegi diddordeb ar agor yn awr.”

Os hoffai rheolwyr tir dderbyn rhagor o wybodaeth neu fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun yna mae croeso iddynt gysylltu ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol trwy anfon e-bost at parc@eryri.llyw.cymru neu ffonio’r brif swyddfa ar 01766 770 274. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn mynegiadau o ddiddordeb yw’r 5ed o Dachwedd.