Gall pob un ohonom chwarae rhan wrth warchod Eryri am genedlaethau i ddod.
Sicrhau dyfodol cynaliadwy i Eryri am genedlaethau i ddod
Gall pob un ohonom gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol. Mae chwarae rhan mewn gwarchod ardal mor arbennig ag Eryri yn gallu bod yn brofiad ysbrydoledig a gwneud i ni deimlo cysylltiad cryfach a’r byd naturiol o’n cwmpas.
Pwysigrwydd gwarchod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd arbennig a phwysig. Mae oddeutu 20% o dir Cymru mewn Parc Cenedlaethol.
Dim ond yn weddol ddiweddar y daeth Parciau Cenedlaethol yn rhan o dirwedd Cymru. Dynodwyd Eryri yn Barc Cenedlaethol ym 1951.
Mae pwysigrwydd Eryri yn cael ei adnabod ar draws y byd.
- Cynefin i rywogaethau a bywyd gwyllt
Mae 17 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn Eryri—mwy nag mewn unrhyw barc cenedlaethol arall yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal, mae 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r gwarchodfeydd a’r safleoedd hyn yn hanfodol i rywogaethau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
- Tirweddau hanfodol
Mae gan barciau cenedlaethol megis Eryri rhan bwysig i’w chwarae mewn lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae mawndiroedd yn storfeydd carbon anhygoel. Mae 17 miliwn tunnell o garbon wedi ei storio ym mawndiroedd Eryri.
- Iechyd a lles
Mae iechyd a lles yn un o bynciau mwyaf y genhedlaeth bresennol. Drwy brofi a dod i gyswllt â natur mewn ardaloedd megis parciau cenedlaethol, gallwn wella ein iechyd a lles meddyliol a chorfforol.







1/7

Heriau’r Parc Cenedlaethol
Rhai o brif heriau Parc Cenedlaethol Eryri yw newid hinsawdd, pwysau ymwelwyr a rhywogaethau ymledol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyd-weithio â nifer o endidau eraill i daclo’r heriau hyn.
Rhagor am Heriau'r Parc Cenedlaethol

Gwaith Cadwraeth
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw partner craidd nifer o brosiectau cadwraeth yn Eryri. Mae’r prosiectau hyn yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o warchod a gwella rhinweddau arbennig yr ardal.
Gweld gwaith cadwraeth

Cynllun Eryri
Cynllun sy’n nodi rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol yw Cynllun Eryri. Y rhinweddau hyn sy’n gwneud Eryri yn le unigryw a phwysig. Mae’r Cynllun yn amlinellu ffyrdd o gydweithio i warchod y rhinweddau hyn.
Cynllun Eryri

Cynllun Ceidwaid Ifanc
Mae Cynllun Ceidwaid Ifanc Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymgysylltu â rhinweddau arbennig ac unigryw Eryri.
Cynllun Ceidwaid Ifanc

Caru Eryri
Rhaglen wirfoddoli yw cynllun Caru Eryri sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y cynllun yw helpu i reoli’r effaith y mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn ei chael yn y Parc Cenedlaethol.
Caru Eryri

Wardeniaid
Mae Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn aml yn gweithio ar reng flaen gwaith cadwraeth a gwarchod yn Eryri. Gall eu gwaith amrywio yn ddyddiol o ymgysylltu â chymunedau’r Parc Cenedlaethol i waith adfer tirweddau.
Wardeniaid y Parc Cenedlaethol

Gwirfoddoli
Mae cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn gonglfaen i’r gwaith cadwraeth a gwarchod yn y Parc Cenedlaethol. Ceir amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn.
Gwirfoddoli