Rhaglen wirfoddoli yw cynllun Caru Eryri sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y cynllun yw helpu i reoli’r effaith y mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn ei chael yn y Parc Cenedlaethol.
Cwblhawyd gwaith gwych gan ein gwirfoddolwyr llynedd. Eleni, mae angen mwy eto o bobl i ymuno â’r tîm. Ein nod yw darparu presenoldeb ar draws mwy o leoliadau dros gyfnod hirach er mwyn sicrhau y gallwn gynorthwyo mwy o ymwelwyr a chynnig mwy o gefnogaeth i gymunedau .
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri mor arbennig.
Bydd eich rôl yn cynnwys rhai o’r tasgau canlynol, ymhlith eraill:
- Gwirfoddoli ar ddydd Gwener, benwythnosau, a gŵyliau banc.
- Parodrwydd i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn gwrtais ac i ddarparu cyngor.
- Meddu ar lefel resymol o ffitrwydd corfforol i allu cerdded ar hyd y llwybrau patrôl a neilltuwyd.
- Hyrwyddo gwaith yr Awdurdod ac annog y cyhoedd i fynd o gwmpas Eryri yn gynaliadwy a chyfrifol.
- Gwneud gwaith cynnal a chadw ar ein llwybrau.
- Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Byddwch yn derbyn hyfforddiant am natur Eryri gan Mike Raine.
- Teithiau cerdded gyda arweinwyr mynydd profiadol.
- Bod yn rhan o dîm cyfeillgar a threulio amser gyda unigolion o’r un anian.
- Byddwn yn ad-dalu treuliau rhesymol (milltiredd cerbyd).
- Gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru.
- Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Bod yn rhan o waith sy’n helpu eraill i ddeall a mwynhau Eryri.
Enwebwyd Caru Eryri yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd yng Ngwobrau Dewi Sant.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Caru Eryri, a’r holl bartneriaid, gwyliwch y fideo isod.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yn Eryri, cysylltwch â:
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant
07584 443 919
etta.trumper@eryri.llyw.cymru