Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig
Gweithio gyda ffermwyr i edrych ar ôl ein tirweddau mwyaf gwerthfawr
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2028. Mae’n cefnogi prosiectau ffermio ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol/AHNE gynt) sy’n gwneud gwelliannau i natur a’r amgylchedd.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan ffermwyr a chyrff Tirweddau Dynodedig, sy’n gweithio gyda’i gilydd i:
- Ganolbwyntio ar weithgareddau cydweithredol sy’n rhychwantu ffermydd lluosog i gyflawni nod cyffredin
- Gyflawni prosiectau sy’n cefnogi adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau
- Helpu busnesau fferm i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn
- Greu cyfleoedd i bobl fwynhau’r Tirweddau a’u treftadaeth ddiwylliannol.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol. Bydd yn cyllido gweithgareddau sydd yn cwmpasu nifer o ffermydd ac yn cael effaith ar raddfa tirwedd. Mae hyn yn golygu mwy na chlystyrau ffurfiol o ffermydd – bydd Ffermio Bro yn cyllido prosiectau sydd yn cyflawni nod drwy gamau a weithredir ar nifer o ffermydd – does dim rhaid i’r ffermwyr gael unrhyw gytundeb na’u bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda’i gilydd.
Pa fath o weithgareddau fydd yn gymwys i gael cyllid?
Bydd y cynllun yn ariannu rhychwant eang o weithgareddau ar draws amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae modd ariannu prosiectau sydd yn cefnogi cynaliadwyedd busnesau ffermio, yn helpu i leihau allyriadau neu liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, yn gwella bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd, ac yn cynnal nodweddion treftadaeth megis waliau.
Bwriad y cynllun ydy cefnogi gwaith a wneir ar raddfa tirwedd, gyda nifer o ffermydd mewn ardal yn cymryd rhan mewn prosiectau.
Gallai’r gweithgareddau gynnwys:
- Plannu coed dwysedd isel wedi’i dargedu lle bydd yn gwella cynefin. Gallai hynny gynnwys ar lannau serth afonydd, mewn ceunentydd ac ar lannau nentydd yn yr ucheldir, corneli caeau, a chreu porfeydd coediog.
- Adfer coetiroedd
- Adfywio naturiol.
- Adfer a chreu gwrychoedd.
- Gwaredu Rhywogaethau Estron Goresgynnol.
- Ymyriadau rheoli risgiau llifogydd yn naturiol.
- Gwella a chreu gwlyptiroedd drwy fesurau ailwlychu a chefnogi pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau.
- Gwella a chreu cynefinoedd torlannol.
- Gwella cynefinoedd a mawndiroedd ucheldirol ac agored.
- Gwella a chreu cynefinoedd iseldir.
- Adfer gweirgloddiau, a chreu stribedi a llecynnau adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio.
- Adfer terfynau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi.
- Gwella mynediad i gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn cefnogi adferiad rhywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd a amlinellir yn y cynllun, megis creu a sefydlu cynefin nythu a bwydo; gan gynnwys mesurau na ellir eu hosgoi i reoli ysglyfaethwyr er mwyn cefnogi’r rhywogaethau hynny fel un o’r camau gweithredu ehangach ar gyfer y dirwedd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn gwella ansawdd dŵr, megis rheoli da byw.
Enghreifftiau yn unig yw’r rhain, nid rhestr gynhwysfawr.
Gweinyddiaeth y Cynllun
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APC Eryri) yn gweinyddu’r rhaglen Ffermio Bro o fewn y Tirweddau Dynodedig canlynol: Parc Cenedlaethol Eryri, Tirwedd Cenedlaethol Llŷn a Thirwedd Cenedlaethol Ynys Môn.
Bydd ffermwyr a thirfeddianwyr o fewn y tirweddau dynodedig uchod yn ymgeisio’n uniongyrchol am y cyllid i APC Eryri, a bydd y tîm Ffermio Bro yn ogystal â’r Panel Asesu Lleol yn dyfarnu cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu anghenion lleol. Mae’r tîm Ffermio Bro yn cynnwys Cynghorwyr arbenigol a fydd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu ceisiadau ac yn cefnogi ymgeiswyr drwy’r broses.
Mae Ffermio Bro yn rhan o gam paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a bydd yr hyn a ddysgir yn llywio datblygiad yr haen gydweithredol.
Manylion ynglŷn â sut bydd Ffermio Bro yn cael ei weithredu (gwefan Tirweddau Cymru)
Sut i wneud cais am y cyllid Ffermio Bro?
Bydd angen i ffermwyr a thirfeddianwyr lenwi Ffurflen Datgan Diddordeb i wneud cais cychwynnol am gyllid Ffermio Bro.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ffenestr cyntaf o geisiadau Ffermio Bro o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, Tirwedd Cenedlaethol Llŷn a Thirwedd Cenedlaethol Ynys Môn ddydd Gwener, 30 Mehefin 2025. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn; fodd bynnag, mae’n anhebygol y bydd modd i ni eu cyllido o fewn y flwyddyn ariannol 2025-26.
Gallwch wneud cais drwy lenwi ein Ffurflen Microsoft yma
Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn Word o’r Ffurflen Datgan Diddordeb
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth wrth ymgeisio am y cyllid cysylltwch â’r tîm Ffermio Bro yn APC Eryri: ffermiobro@eryri.llyw.cymru