Ffenestr ar gyfer mynegi diddordeb ar agor
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi bod y ffenestr Mynegi Diddordeb (MD) nesaf ar gyfer rhaglen Ffermio Bro ar agor.
Mae Ffermio Bro yn cefnogi ffermwyr i gydweithio ar brosiectau ymarferol, dan arweiniad lleol, sy’n darparu buddion amgylcheddol, diwylliannol a thirwedd ledled Eryri, Llŷn a Môn. Rydym yn gwahodd ceisiadau rŵan tan ddiwedd mis Ionawr 2026 ac yn croesawu diddordeb gan grwpiau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan:
Grwpiau o ffermwyr – grwpiau cydweithredol sydd â’r siawns gorau o lwyddo i sicrhau cyllid. Mae gweithio gyda’ch gilydd ar draws ffermydd cyfagos yn caniatáu i brosiectau ddarparu manteision tirwedd ehangach a chyflawni’r effaith fwyaf. Ni fydd y grwpiau wedi eu clymu yn gyfreithiol ac mae pob cytundeb yn unigol i bob fferm.
Grwpiau yn seiliedig ar themau lleol – rydym yn annog grwpiau ffermwyr i ddatblygu prosiectau sy’n ymateb i flaenoriaethau lleol neu faterion sy’n berthnasol i’w hardal. Mae enghreifftiau o themâu addas yn cynnwys:
- Gwelliannau Ansawdd Dŵr
e.e. ffensio cyrsiau dŵr, rheoli dŵr glaw, creu pyllau, neu wella systemau dyfrio da byw. - Rheoli Cynefinoedd
e.e. adfer dolydd gwair traddodiadol, gwella strwythur glaswelltir, rheoli coetiroedd, rheoli ucheldiroedd trwy bori gyda gwartheg brodorol a chreu coridorau bywyd gwyllt. Y nod yw cysylltu cynefinoedd ar draws y dirwedd. - Gwaith sy’n Canolbwyntio ar Rywogaethau
e.e. cefnogi rhywogaethau allweddol fel y frân goesgoch, y gylfinir, neu fele’r coed trwy ymyriadau cynefin wedi’u targedu.
Os ydych chi’n ansicr pa thema sy’n gweddu orau i’ch ardal chi, gall ein swyddogion Ffermio Bro eich helpu i archwilio opsiynau a datblygu cynnig cryf. Rydym yn cynghori ffermwyr i sefydlu’r grwpiau oherwydd mai chi sy’n adnabod y cysylltiadau lleol, a gallwn ddatblygu dull gweithredu yn seiliedig ar thema gyda’n gilydd.
Pam gwneud cais?
- Cewch gymorth i gyflawni gwelliannau ymarferol ar y fferm.
- Cewch gymorth tuag at gyflawni Camau Gweithredu Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC).
- Cewch gyngor wedi’i deilwra gan swyddogion lleol Ffermio Bro.
- Mae’n ddull cydweithredol sy’n cryfhau cymunedau ffermio lleol.
- Mae’r prosiectau yn fuddiol i’ch tir a thirwedd ehangach Eryri.
Sut i wneud cais?
Gallwch gyflwyno cais trwy gwblhau’r ffurflen ymgeisio isod: